Dyddiadur Ursula – Taith i Gaerdydd

Cofnod arall gan Ursula, o’r dosbarth yn Aberteifi. Yr wythnos hon, mae hi wedi bod i’r brifddinas…

Aethon ni i Gaerdydd fore Mawrth. Cyn i ni yrru i Gaerdydd aethon ni i Abertawe i gael aciwbigo a chinio hyfryd mewn bwyty Sbaenaidd. Pam aethon ni i Gaerdydd? Wel, aethon ni i gwrdd â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn y Senedd. Cyfarfod am hanner awr wedi saith gyda’r nos, cawsom fwffe braf iawn ac roedd y noson yn ddiddorol iawn.

Heléna Herklots yw’r Comisiynydd ac mae hi’n gweithio’n galed iawn i sicrhau taw Cymru yw’r lle gorau yn y byd i bobl sy’n heneiddio.

Mae Cymru yn ffodus iawn i gael Comisiynydd, hi yw’r wlad gyntaf yn y byd i gael un. Heléna yw’r trydydd un.

Y peth anhygoel yw bod ganddi bobl o wahanol asiantaethau yn gweithio gyda’i gilydd. Mae’r broblem yr un peth i bawb.

Mae hi’n gobeithio dod i Aberteifi yn fuan i gwrdd â phobl yma. Mae gan hen bobl wahanol broblemau yma i Gaerdydd.

Arhoson ni mewn gwesty ar bwys y Senedd a chodi am chwech o’r gloch i gyrraedd y dosbarth Cymraeg cyntaf yn Aberteifi.