Digwyddiadau Llambed a Dyffryn Aeron

Wedi cael neges gan Nia Llywelyn sy’n rhestri rhai o’r digwyddiadau Cymraeg yn Nyffryn Aeron a Llanbedr Pont Steffan:

4 Tachwedd, 7:30 pm. Bingo Bananas gyda’r comediwr Noel James yn Castle Green, Llanbed, raffl ar y noson. Croeso i bawb

12 Tachwedd 3:30 pm. Sgwrs ar y Sul gyda Geraint Morgan. Bywyd fferyllydd!
Tafarn y Vale, Dyffryn Aeron.

24 Tachwedd 7:30 pm. Noson o Farddoniaeth a bach o ffidil gyda Iestyn Tyne. Yn cefnogi mae’r prifardd Hywel Griffiths.
Tafarn y Vale, Dyffryn Aeron. Croeso i bawb

25 Tachwedd 7:30 pm. Noson gyda Owen Shiers, Cynefin. Neuadd Fictoria, Llanbed. Pris mynediad £5, £3 i blant

10 Rhagfyr 3 pm. Sgwrs ar y Sul gyda teulu Gwarffynnon. Dewch i glywed sut wnaeth Gwarffynnon ddechrau bar llaeth. Tafarn y Vale, Dyffryn Aeron.

12 Ionawr  7:30 pm. Noson Y Fari Lwyd gyda Gwilym Bowen Rhys, Neuadd Fictoria, Llanbed £5 oedolion, £3 plant. Croeso i bawb.

Merched y Wawr, Cylch Teifi

Y cyfarfodydd yn Festri Capel Mair am 7.00yh

Rhaglen 2023 – 2024

4 Hydref 2023
Hazel Thomas, Swyddog Datblygu Merched y Wawr

1 Tachwedd 2023
Cinio yng Nghlwb Golff Aberteifi

6 Rhagfyr 2023
Addurniadau Nadolig

3 lonawr 2024
Cwis Hwyl – Rhidian Evans

Cyfarfod mis Chwefror – i’w drefnu

1 Mawrth 2024
Cinio Gwyl Dewi y Cymdeithasau yn y Clwb Golff – 7.00yh ar gyfer 7.30yh
Gwestai – yr actores Rhian Morgan, Llandeilo

3 Mawrth 2024
Oedfa Gwyl Dewi y Cymdeithasau yng Nghapel Mair am 6.00 h
Anerchiad gan Mrs Gwendoline Evans, Nanternis

7 Mawrth 2024
Ymuno à Changen y Mwnt i ddathlu Gwyl Dewi

Cymdeithas Maes a Môr, Ffostrasol

Cymdeithas Hanes Maes a Môr
Rhaglen Medi 2023 – Chwefror 2024
7.30 Neuadd Ffostrasol

18 Medi 2023
Llinos Dafis: “Byd Dai”

16 Hydref 2023
Bethan Jones: “Hanes y Mudiad Heddwch yng Nghymru yn ystod yr 80au”

20 Tachwedd 2023
Keys Huysmans: “Waffls Tre-groes yn 40 oed”

18 Rhagfyr 2023
Siân Wyn Siencyn: “Stori Marian”

15 Ionawr 2024 (Nos Lun) – Caryl Lewis yn siarad am Martha, Jac a Sianco yn Neuadd Ffostrasol am 7.30 o’r gloch 

27 Ionawr 2024 (Nos Sadwrn) Dathlu Santes Dwynwen yng nghwmni Ryland Teifi yn Neuadd Ffostrasol am 7.30 o’r gloch. 

19 Chwefror 2024 (Nos Lun) Sgwrs gan Meinir a Mari Mathias yn Neuadd Ffostrasol am 7.30 o’r gloch 

Cymdeithas Cymrodorion Aberteifi a’r Cylch

Bydd y Cymrodorion yn cwrdd yn Festri Capel Mair, Aberteifi ar nos Fercher, am 7.00 o’r gloch.

Rhaglen y Tymor 2023-2024

2023
Hydref 11
Carys Ifan, Llangrannog.
Testun: “Creu Cerflun Cranogwen”

Tachwedd 8
John Meredith, Blaenpennal.
Testun: “Digwyddiadau, Profiadau, Newidiadau”

2024
lonawr 10
Hedd Ladd Lewis, Boncath.
Testun: “Y Lusitania, Arras a Theulu’r Ladd’s”

Chwefror 14
David Grace, Aberteifi.
Testun: “Cadw Gwenyn”.

Dathlu Gwyl Ddewi 2024:
Mawrth 1
Cinio’r Tair Cymdeithas yn y Clwb Golff, Gwbert tan ofal Cymrodorion
Aberteifi a’r Cylch. 7.00 am 7.30 y.h.
Y Gwestai: Rhian Morgan (actores), Llandeilo.

Mawrth 3
Oedfa’r Cymdeithasau yng ngofal Cylch Cinio Teifi yng Nghapel Mair, Aberteifi am 6.00 y.h.
Pregethwraig Wadd: y Chwaer Gwendolyn Evans, Nanternis.

Mawrth 13
Huw Lewis, Tremain.
Testun: “Patrymau tywydd dros yr hanner canrif ddiwetha'”

Ebrill 10
Richard Lewis (Prif Gwnstabl) a Dafydd Llywelyn (Comisiynydd) Heddlu Dyfed Powys
Testun: “Plismona yng Nghymru a Datganoli”

Dyddiadur Ursula – Ein Hwythnos Enlli

EIN HWYTHNOS ENLLI

19 i 26 Mehefin 2021

Naethon ni benderfynu y llynedd i gael gwyliau ar Ynys Enlli ond cafodd hynny ei ganslo oherwydd Covid. Ron ni’n ffodus iawn i fynd eleni felly ar Enlli am wythnos ym mis Mehefin – am ddiwrnod hiraf y flwyddyn!

Dyma fy nyddiadur Enlli:

Dydd Sadwrn: Cyrhaeddon ni mewn cwch o Benrhyn Llyn, dim ond 20 munud. Daethpwyd â’n bagiau i’r bwthyn bach, o’r enw LLOFFT PLAS. Bwthyn bach hyfryd yw hwn i ddau o bobl gyda golygfa goleudy! Mae’r ffermwyr yn coginio ac yn dod â’r prydau i’r bwthyn – fel DELIVEROO ond yn well! Dechreuon ni’r diwrnod hwn yn gynnar iawn felly aethon ni i’r gwely yn gynnar hefyd! Yn barod ar gyfer dydd Sul — ein diwrnod llawn cyntaf ar Enlli!

Dydd Sul: Cawsom frecwast yn yr ardd fach o flaen ein bwthyn, yn edrych ar y goleudy coch a gwyn a 10m o daldra, nefoedd! Roedd hi mor heddychlon, dim ceir, dim teledu na radio na ffonau symudol …. Dim ond synau adar a synau defaid a gwartheg. Ar ôl brecwast aethon ni i weld y goleudy a’r morloi. Roedd yna lawer o forloi yn yr harbwr, yn chwarae gyda’i gilydd yn y môr ac yn torheulo ar y creigiau. Roedd y tywydd yn hyfryd, eisteddon ni am hanner dydd am bicnic, gan fwynhau’r lle arbennig hwn. Mae popeth yn arafu pan wyt ti ar ynys! Gwelson ni bâl, hugan, mulfran, llawer o biod y môr swnllyd iawn ac yn y nos canodd y aderyn drycin manaw: “NETANYAHU” – dw i ddim yn gwybod sut maen nhw’n gwybod ei enw ……

Dydd Llun: Dringon ni fynydd Enlli, dim ond 167m o uchder, ond gyda golygfa hardd dros y don i Benrhyn Llŷn. Dreulion ni ychydig o oriau yn eistedd, edrych a gwrando. Gyda’r nos ron ni’n chwarae SCRABBLE ENLLI – dim ond geiriau am Enlli. Naethon ni benderfynu dod yma bob blwyddyn ar gyfer ein gwyliau – mae’n agos at adref (dim ond 3 awr!!) mewn car ond mae fel lle gwahanol iawn, arbennig iawn.

Dydd Mawrth: Mae Enlli yn 2.5 milltir o hyd a 1.5 milltir o led felly aethon ni am dro diddorol a hir iawn. Gwelson ni’r capel a’r fynwent a darllen am hanes Enlli. Naethon ni gwrdd â wardeiniaid Enlli ac oedd ar y teledu ar “Garddio a Mwy” S4C fis yn ôl. Ron ni am weld eu gardd a siarad am arddio yno. Ac yna naethon ni feddwl am wirfoddoli yn Enlli a gweithio fel garddwyr ym mis Hydref.

Hwrê!!!! Dyn ni’n dod yn ôl!!!

Dydd Mercher a dydd Iau: (roedd y tywydd hyfryd, heulog a dim llawer o wynt- yn bwysig iawn pan wyt ti’n ar gwch bach ar y môr!!)

Mae’r ffermwr hefyd yn bysgotwr ac yn mynd i bysgota am grancod a chimychiaid bron bob dydd. Am ddau ddiwrnod aethon ni gydag ef a dysgu llawer am bysgota a’r môr!

Mae’n gweithio’n galed iawn ond mae hefyd yn gynaliadwy iawn, mae’n mesur y cimychiaid yn ofalus iawn!

Naethon ni fwyta dau bryd gyda chrancod ffres iawn!

Dydd Gwener:

Roedd y tywydd yn wyntog ac yn bwrw glaw trwy’r dydd ond aethon ni am dro beth bynnag oherwydd roedd hi’n ddiwrnod olaf i ni ar Enlli ac ron ni am brofi’r holl dywydd gwahanol – cawson ni ein dillad gwrth-ddŵr a mwynhau’r diwrnod! Roedd rhaid i ni gael ein te prynhawn olaf a ffarwelio â’r ffermwyr a’r wardeiniaid. Ron ni’n drist iawn gadael Enlli ond yn hapus i ddod yn ôl ym mis Hydref!

Tynnais lawer o luniau – dyma “morlo hapus” –

Cornel y Llyfrau – Hafan Deg gan Siân Rees

Syniad daeth i law oddi wrth Pete y Piano yw sefydlu adran ar y blog (ac yn y cylchlythyr) i gynnwys adolygiadau o lyfrau mae pobl wedi eu mwynhau’n ddiweddar. Dyma ni felly, gyda pwt bach gan Pete ar nofel mae e’n ei hargymell, Hafan Deg gan Siân Rees. Os hoffech chi gyfrannu at yr adran yma, anfonwch eich adolygiadau aton ni trwy ebost, os gwelwch yn dda.

Daeth Byrti i’r byd o dan amgylchiadau amheus . Wrth symud i Rhyl [yn 18 oed] am hyfforddiant milwrol sylfaenol cafodd e ei fabwysiadu gan deulu llawer mwy gofalgar na’r un yn ôl yn y Cymoedd . Ar ôl hynny roedd e’n parhau i gael profiadau a oedd yn amrwyio o’r aruchel i’r erchyll.

Mae’r rhyddiaith yr ysgrifennwyd y nofel ynddi yn amlwg yn ddarllenadwy. Ar ben hynny mae gostyngiad sylweddol ar y pris os dych chi’n archebu yn uniongyrchol o “Garreg Gwalch” sef £3.00 yn lle £8.00 – cliciwch yma i archebu’ch copi.

(Os bydd y cynnig arbennig wedi dod i ben erbyn i chi ddarllen yr uchod, mae’r llyfr ar gael o Gwales ac Amazon hefyd. Diolch Pete!)

Garddio – ein ffordd, nid yr unig ffordd

Dyma Ursula gyda’r hanes o sut mae hi’n trin ei gardd ei hunan – dim ond Rhan 1 yw hyn, bydd rhagor yr wythnos nesa!

Dw i’n tyfu blodau ar gyfer peillwyr yn unig, planhigion brodorol yn bennaf ond bob amser yn fwyd i wenyn a gloÿnnod byw.

Dim ond hadau organig dw i’n eu prynu! Bob blwyddyn dw i’n rhoi cynnig ar rywbeth newydd!

Mae’r cosmos fel pili-pala!

Dyn ni’n caniatáu i chwyn (beth yw chwyn?) dyfu yn ein gardd a dim ond ychydig o weithiau dyn ni’n torri’r glaswellt yn ystod yr haf.

Mae Myrddin a lola yn mwynhau chwarae pel droed yn y glaswellt hir gyda llygad y dydd bach gwyn!

Dyma’n ffrind gorau! Mae’n draenog yn bwyta bob malwen a gwlithen – datrys problemau!

Dyn ni’n hoffi ffa dringo! Dyn ni wedi’u hau yn gynharach yn y flwyddyn ac nawr, ym mis Awst, gallwn ni eu bwyta! Roedd y gwenyn yn brysur yn eu peillio! Swydd dda iawn!

Dwy Flynedd Arbennig

Roedd yn gariad ar yr olwg gyntaf!

Cwrddon ni ym mis Medi ac symudon ni at ei gilydd ym mis Hydref. Dysgon ni lawer o bethau newydd gyda’n gilydd ac oddi wrth ein gilydd.
Teithion ni o amgylch Cymru a’r Alban a mwynhau bod gyda ffrindiau a theulu. Mae pawb yn gweld ein bod mewn cariad ac dyn ni’n cael amser rhyfeddol!

Ar y daith gwelon ni lawer o leoedd gwahanol a diddorol. Ein lle gorau oedd y traeth oherwydd dyn ni’n hoffi cerdded wrth y môr, gwylio machlud haul a chael picnic ar y traeth. Dyn ni’n hefyd yn hoffi eistedd yn yr ardd a gwylio adar, pili-pala a gwenyn – dyn ni’n mwynhau bywyd syml!

Mae pobl sy’n fy adnabod yn gwybod am beth dw i’n siarad!

Taith Iaith Ursula

Hen bâr o sgidiau cerdded, sy bellach yn cael eu defnyddio fel potiau planhigion. Llun gan Ursula

Cofnod dyddiadur arall gan Ursula – hi sy biau’r llun hyfryd hefyd. Diolch yn fawr i ti Ursula, ac edrychwn ymlaen at barhau’r daith gyda Cwrs Canolradd yn yr Hydref!

Fy nhaith iaith

 Dw i wedi gwylio pob IAITH AR DAITH ar S4C bob nos Sul am wyth o’r gloch.

Ruth Jones oedd y gorau hyd yn hyn. Mae hi’n hamddenol ac yn ddoniol ac dyw hi’n ddim yn boeni am wneud camgymeriadau.

Mae hi’n chwerthin ac yn ceisio eto.

Gallwn ddysgu llawer ganddi. Mae llawer o bobl, gan gynnwys fi, eisiau bod yn berffaith cyn iddyn nhw ddechrau siarad yr iaith ond mae’n bwysig iawn  “ymarfer” yr iaith a gwneud camgymeriadau.

Dw i’n gwybod bod pawb yn wahanol ac dyn ni’n dysgu’n wahanol hefyd. Unwaith eto, dyn ni’n lwcus iawn yma yng ngorllewin Cymru oherwydd bod pobl yn siarad yn glir ac yn araf. Mae’n pethau a rhaglenni gwahanol arlein ac ar y teledu a’r radio i’n helpu ni a gwneud dysgu’n llawer o hwyl .

Dw i’n ceisio gwneud un peth Cymraeg bob dydd – ysgrifennu ebost neu neges ar WhatsApp neu’r ffôn symudol, darllen llyfr (gan Lois Arnold) neu gylchgrawn, edrych ar S4C, sgwrsio ar Zoom gyda phobl newydd (mae hynny’n frawychus iawn weithiau) am bethau diddorol a doniol. Dw i’n mwynhau sgwrsio ar Zoom yn fwy nag yn y dafarn achos nid oes sŵn cefndir a gallwch glywed yn glir!

Dw i’n ffodus iawn i ddysgu Cymraeg. Mae fy mhartner yn gefnogol iawn – mae hi’n prynu llyfrau i mi ac yn gwylio’r rhagleni Cymraeg gyda fi (gyda  isdeitlau wrth gwrs!). Yn 2011 dechreuon ni ddysgu Cymraeg gyda’n gilydd ond roedd rhaid i ni stopio oherwydd ein gwaith caled a dyn ni’n rhy flinedig i ddysgu yr iaith gyda’r nos. Nawr, dw i’n dysgu yn ystod y dydd ac mae’n haws o lawer.

Diolch i’r Gymraeg dw i’n mwynhau darllen ac ysgrifennu eto ar ôl blynyddoedd lawer o beidio a darllen yn Almaeneg na Saesneg. Dw i wedi dod o hyd i fy hoff iaith! Ac mae’n dda i’m hymennydd hefyd, mae’n helpu gyda’r cof! Mae’n fy nghadw’n heini!

Mae pawb yn helpu gyda dysgu yn y siopau, yn y stryd, yn y sinema ac ym mhobman.

Rhaid i ni fod yn ddewr i siarad a phobl a chymryd y cam cyntaf!

Prosiect Arbennig ar Foroedd a Threftadaeth Forol Cymru

[scroll down for English]

Prosiect Arbennig ar Foroedd a Threftadaeth Forol Cymru

Oes gennych chi atgof arbennig am y bywyd gwyllt o amgylch arfordir Cymru neu am ein treftadaeth forol? Beth am stori dda i’w dweud neu lun i’w rannu?

Boed yn atgofion am blentyndod neu’n straeon gan eich tad-cu a’ch mam-gu, meddyliau am sut mae’r môr wedi newid, lluniau, llythyrau neu hen gasgliadau o gregyn … mae’r Ymddiriedolaethau Natur eisiau dod â’r straeon hyn yn ôl o’r dyfnderoedd.

Mae Moroedd Byw Cymru yn brosiect arfordirol ledled Cymru sy’n cael ei drefnu gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Drwy’r prosiect, bydd yr Ymddiriedolaethau Natur yn astudio, yn cofnodi ac yn rhannu atgofion morol pobl, o eiliadau arbennig i fywyd gwyllt i straeon am bysgota a safbwyntiau am sut mae amgylchedd y môr yng Nghymru wedi newid.

Bydd yr atgofion a’r straeon y bydd Ymddiriedolaethau Natur yn eu casglu’n cael eu harddangos yn archif weledol Moroedd Byw Cymru ac bydd unrhyw un yn gallu gweld yr archif yma. Mae hyn yn golygu na fydd yr atgofion morol arbennig yma’n cael eu hanghofio fyth! Bydd straeon ar gael mewn amrywiol gyfryngau, gan gynnwys gair ysgrifenedig, ffotograffau, sain a fideo.

Os oes gennych atgofion yr hoffech eu rhannu gyda’r prosiect, cysylltwch â Beth Thompson a thîm y Prosiect Moroedd Byw yn y Cei Newydd. Eu manylion cyswllt yw:

Ar-lein: https://livingseas.wales/cy/rhannu-eich-straeon-mor-gyda-ni/cyflwyno-eich-stori/
E-bost: livingseas@welshwildlife.org
Ffoniwch: 01545 560224


Special Project on Welsh Seas and Maritime Heritage

Do you have a special memory for the wildlife around the coast of Wales or our marine heritage? How about a good story to tell or a picture to share?

Whether it’s childhood memories or stories from your grandparents, thoughts about how the sea has changed, pictures, letters or old shell collections … the Wildlife Trusts want to bring these stories back from the depths.

Living Seas Wales is a Wales-wide coastal project organized by the North Wales Wildlife Trust and the Wildlife Trust of South and West Wales. Through the project, the Wildlife Trusts will study, record and share people’s marine memories, from special moments for wildlife to fishing stories and perspectives on how the marine environment in Wales has changed.

The memories and stories collected by Wildlife Trusts will be on display in the visual archive of Living Seas Wales and will be accessible to anyone. This means that these special marine memories will never be forgotten! Stories will be available in a variety of media, including written word, photographs, audio and video.

If you have memories that you would like to share with the project, please contact Beth Thompson and the New Quay Living Seas Project team. Their contact details are:

Online: https://livingseas.wales/share-your-sea-stories-with-us/submit-your-sea-story/
Email: livingseas@welshwildlife.org
Call: 01545 560224