Syniad daeth i law oddi wrth Pete y Piano yw sefydlu adran ar y blog (ac yn y cylchlythyr) i gynnwys adolygiadau o lyfrau mae pobl wedi eu mwynhau’n ddiweddar. Dyma ni felly, gyda pwt bach gan Pete ar nofel mae e’n ei hargymell, Hafan Deg gan Siân Rees.Os hoffech chi gyfrannu at yr adran yma, anfonwch eich adolygiadau aton ni trwy ebost, os gwelwch yn dda.
Daeth Byrti i’r byd o dan amgylchiadau amheus . Wrth symud i Rhyl [yn 18 oed] am hyfforddiant milwrol sylfaenol cafodd e ei fabwysiadu gan deulu llawer mwy gofalgar na’r un yn ôl yn y Cymoedd . Ar ôl hynny roedd e’n parhau i gael profiadau a oedd yn amrwyio o’r aruchel i’r erchyll.
Mae’r rhyddiaith yr ysgrifennwyd y nofel ynddi yn amlwg yn ddarllenadwy. Ar ben hynny mae gostyngiad sylweddol ar y pris os dych chi’n archebu yn uniongyrchol o “Garreg Gwalch” sef £3.00 yn lle £8.00 – cliciwch yma i archebu’ch copi.
(Os bydd y cynnig arbennig wedi dod i ben erbyn i chi ddarllen yr uchod, mae’r llyfr ar gael o Gwales ac Amazon hefyd. Diolch Pete!)
Dyma Ursula gyda’r hanes o sut mae hi’n trin ei gardd ei hunan – dim ond Rhan 1 yw hyn, bydd rhagor yr wythnos nesa!
Dw i’n tyfu blodau ar gyfer peillwyr yn unig, planhigion brodorol yn bennaf ond bob amser yn fwyd i wenyn a gloÿnnod byw.
Dim ond hadau organig dw i’n eu prynu! Bob blwyddyn dw i’n rhoi cynnig ar rywbeth newydd!
Mae’r cosmos fel pili-pala!
Dyn ni’n caniatáu i chwyn (beth yw chwyn?) dyfu yn ein gardd a dim ond ychydig o weithiau dyn ni’n torri’r glaswellt yn ystod yr haf.
Dyma’n ffrind gorau! Mae’n draenog yn bwyta bob malwen a gwlithen – datrys problemau!
Dyn ni’n hoffi ffa dringo! Dyn ni wedi’u hau yn gynharach yn y flwyddyn ac nawr, ym mis Awst, gallwn ni eu bwyta! Roedd y gwenyn yn brysur yn eu peillio! Swydd dda iawn!
Cwrddon ni ym mis Medi ac symudon ni at ei gilydd ym mis Hydref. Dysgon ni lawer o bethau newydd gyda’n gilydd ac oddi wrth ein gilydd. Teithion ni o amgylch Cymru a’r Alban a mwynhau bod gyda ffrindiau a theulu. Mae pawb yn gweld ein bod mewn cariad ac dyn ni’n cael amser rhyfeddol!
Ar y daith gwelon ni lawer o leoedd gwahanol a diddorol. Ein lle gorau oedd y traeth oherwydd dyn ni’n hoffi cerdded wrth y môr, gwylio machlud haul a chael picnic ar y traeth. Dyn ni’n hefyd yn hoffi eistedd yn yr ardd a gwylio adar, pili-pala a gwenyn – dyn ni’n mwynhau bywyd syml!
Mae pobl sy’n fy adnabod yn gwybod am beth dw i’n siarad!
Cofnod dyddiadur arall gan Ursula – hi sy biau’r llun hyfryd hefyd. Diolch yn fawr i ti Ursula, ac edrychwn ymlaen at barhau’r daith gyda Cwrs Canolradd yn yr Hydref!
Fy nhaith iaith
Dw i wedi gwylio pob IAITH AR DAITH ar S4C bob nos Sul am wyth o’r gloch.
Ruth Jones oedd y gorau hyd yn hyn. Mae hi’n hamddenol ac yn ddoniol ac dyw hi’n ddim yn boeni am wneud camgymeriadau.
Mae hi’n chwerthin ac yn ceisio eto.
Gallwn ddysgu llawer ganddi. Mae llawer o bobl, gan gynnwys fi, eisiau bod yn berffaith cyn iddyn nhw ddechrau siarad yr iaith ond mae’n bwysig iawn “ymarfer” yr iaith a gwneud camgymeriadau.
Dw i’n gwybod bod pawb yn wahanol ac dyn ni’n dysgu’n wahanol hefyd. Unwaith eto, dyn ni’n lwcus iawn yma yng ngorllewin Cymru oherwydd bod pobl yn siarad yn glir ac yn araf. Mae’n pethau a rhaglenni gwahanol arlein ac ar y teledu a’r radio i’n helpu ni a gwneud dysgu’n llawer o hwyl .
Dw i’n ceisio gwneud un peth Cymraeg bob dydd – ysgrifennu ebost neu neges ar WhatsApp neu’r ffôn symudol, darllen llyfr (gan Lois Arnold) neu gylchgrawn, edrych ar S4C, sgwrsio ar Zoom gyda phobl newydd (mae hynny’n frawychus iawn weithiau) am bethau diddorol a doniol. Dw i’n mwynhau sgwrsio ar Zoom yn fwy nag yn y dafarn achos nid oes sŵn cefndir a gallwch glywed yn glir!
Dw i’n ffodus iawn i ddysgu Cymraeg. Mae fy mhartner yn gefnogol iawn – mae hi’n prynu llyfrau i mi ac yn gwylio’r rhagleni Cymraeg gyda fi (gyda isdeitlau wrth gwrs!). Yn 2011 dechreuon ni ddysgu Cymraeg gyda’n gilydd ond roedd rhaid i ni stopio oherwydd ein gwaith caled a dyn ni’n rhy flinedig i ddysgu yr iaith gyda’r nos. Nawr, dw i’n dysgu yn ystod y dydd ac mae’n haws o lawer.
Diolch i’r Gymraeg dw i’n mwynhau darllen ac ysgrifennu eto ar ôl blynyddoedd lawer o beidio a darllen yn Almaeneg na Saesneg. Dw i wedi dod o hyd i fy hoff iaith! Ac mae’n dda i’m hymennydd hefyd, mae’n helpu gyda’r cof! Mae’n fy nghadw’n heini!
Mae pawb yn helpu gyda dysgu yn y siopau, yn y stryd, yn y sinema ac ym mhobman.
Rhaid i ni fod yn ddewr i siarad a phobl a chymryd y cam cyntaf!
Prosiect Arbennig ar Foroedd a Threftadaeth Forol Cymru
Oes gennych chi atgof arbennig am y bywyd gwyllt o amgylch arfordir Cymru neu am ein treftadaeth forol? Beth am stori dda i’w dweud neu lun i’w rannu?
Boed yn atgofion am blentyndod neu’n straeon gan eich tad-cu a’ch mam-gu, meddyliau am sut mae’r môr wedi newid, lluniau, llythyrau neu hen gasgliadau o gregyn … mae’r Ymddiriedolaethau Natur eisiau dod â’r straeon hyn yn ôl o’r dyfnderoedd.
Mae Moroedd Byw Cymru yn brosiect arfordirol ledled Cymru sy’n cael ei drefnu gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Drwy’r prosiect, bydd yr Ymddiriedolaethau Natur yn astudio, yn cofnodi ac yn rhannu atgofion morol pobl, o eiliadau arbennig i fywyd gwyllt i straeon am bysgota a safbwyntiau am sut mae amgylchedd y môr yng Nghymru wedi newid.
Bydd yr atgofion a’r straeon y bydd Ymddiriedolaethau Natur yn eu casglu’n cael eu harddangos yn archif weledol Moroedd Byw Cymru ac bydd unrhyw un yn gallu gweld yr archif yma. Mae hyn yn golygu na fydd yr atgofion morol arbennig yma’n cael eu hanghofio fyth! Bydd straeon ar gael mewn amrywiol gyfryngau, gan gynnwys gair ysgrifenedig, ffotograffau, sain a fideo.
Os oes gennych atgofion yr hoffech eu rhannu gyda’r prosiect, cysylltwch â Beth Thompson a thîm y Prosiect Moroedd Byw yn y Cei Newydd. Eu manylion cyswllt yw:
Special Project on Welsh Seas and Maritime Heritage
Do you have a special memory for the wildlife around the coast of Wales or our marine heritage? How about a good story to tell or a picture to share?
Whether it’s childhood memories or stories from your grandparents, thoughts about how the sea has changed, pictures, letters or old shell collections … the Wildlife Trusts want to bring these stories back from the depths.
Living Seas Wales is a Wales-wide coastal project organized by the North Wales Wildlife Trust and the Wildlife Trust of South and West Wales. Through the project, the Wildlife Trusts will study, record and share people’s marine memories, from special moments for wildlife to fishing stories and perspectives on how the marine environment in Wales has changed.
The memories and stories collected by Wildlife Trusts will be on display in the visual archive of Living Seas Wales and will be accessible to anyone. This means that these special marine memories will never be forgotten! Stories will be available in a variety of media, including written word, photographs, audio and video.
If you have memories that you would like to share with the project, please contact Beth Thompson and the New Quay Living Seas Project team. Their contact details are:
Bydd y Gymdeithas yn cynnal ‘Bore Coffi’ i ddysgwyr dros Zoom am 10.00, bob yn ail fore dydd Mawrth.
Cyfle arbennig i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg a chwrdd â dysgwyr mewn rhannau eraill o Gymru a Lloegr! Bydd angen ebostio post@cymdeithas.cymru i gael cadarnhad o’r dyddiadau a linc i fynychu.
Cymdeithas will be holding a fortnightly ‘Coffee Morning’ for learners over Zoom at 10.00, every other Tuesday morning.
A great opportunity for learners to practice their Welsh and meet learners in other parts of England and Wales! Email post@cymdeithas.cymru if you want to attend the event so they can send you a link.
Mae Dysgu Cymraeg Sir Benfro yn cynnal sesiynau anffurfiol ar Zoom ar wahanol lefelau yn ystod yr wythnos, fel y canlyn – cysylltwch â’r tiwtor am fanylion mewngofnodi (bydd y sesiynau’n dechrau am 11.00am):
Learn Welsh Pembrokeshire are holding informal Zoom sessions at different levels during the week, as follows – contact the tutor for login details (sessions start at 11.00am):