Eisteddfod Llandudoch

[Lawrlwytho’r rhaglen yma]

Mai 18fed, 2019 – Neuadd Llandudoch

Cystadlaethau ar gyfer dysgwyr. (Noddir gan Dysgu Cymraeg Sir Benfro)

Rhif 67 : Cystadleuaeth lwyfan i ddysgwyr o Lefel Mynediad hyd at Lefel Uwch –  darllen darn y bydd mis o amser i’w baratoi.

Dyma’r darn i’w ddarllen:

Clychau Cantre’r Gwaelod
(J.J.Williams)

O dan y môr a’i donnau,
Mae llawer dinas dlos
Fu’n gwrando ar y clychau
Yn canu gyda’r nos;
Trwy ofer esgeulustod
Y gwyliwr ar y tŵr
Aeth clychau Cantre’r Gwaelod
O’r golwg dan y dŵr.

Pan fyddo’r môr yn berwi
A’r corwynt ar y don,
A’r wylan wen yn methu
Cael disgyn ar ei bron;
Pan dyr y don ar dywod
A tharan yn ei stŵr,
Mae clychau Cantre’r Gwaelod
Yn ddistaw dan y dŵr.

Ond pan fo’r môr heb awel
A’r don heb ewyn gwyn,
A’r dydd yn marw’n dawel
Ar ysgwydd bell y bryn,
Mae nodau pêr yn dyfod,
A gwn yn eithaf siŵr.
Fod Clychau Cantre’r Gwaelod
I’w clywed dan y dŵr.

(Lawrlwytho’r geiriau fel Word doc.)

Cerddwyr Cylch Teifi – Ardal Wdig

Cerddwyr Cylch Teifi: 11 Mai 2019
Ardal Wdig
Arweinydd: Dafydd Davies

Byddwn yn gadael maes parcio (di-dâl) ‘Harbour Village’, Wdig (SM947 388; Cod post: SA64 0DX) am 10:30. Nid prif faes parcio’r pentref yw hwn: o gyfeiriad y fferi, trowch i’r chwith wrth y gyffordd uwchlaw a bron yn syth i’r dde (troad siarp lan y bryn); mae arwydd ffordd i’r maes parcio ar y chwith ar ôl rhyw hanner milltir.

Y Daith: Taith gylch o ryw 2½ milltir, tua dwy awr, ar lwybrau a thraciau yn ardal Wdig a Llanwnda. O’r maes parcio byddwn yn dilyn llwybrau i’r gogledd ac yna i’r gorllewin heibio Fferm Ciliau i gyrraedd Llanwnda cyn dychwelyd ar heol lonydd a thrac i’r maes parcio. Esgyniad: tua 150 o droedfeddi. 7 sticil.

Pwyntiau o ddiddordeb: Hanes glaniad byddin y Ffrancod yn 1797, Siambr Gladdu Garn Wen a phentref Llanwnda.

Cymdeithasu dros luniaeth wedyn: Y Rose and Crown, Wdig (efallai bydd angen talu i barcio’n agos wrth Orsaf y Rheilffordd).


Cerddwyr Cylch Teifi Walkers: 11 May 2019
Goodwick Area
Leader: Dafydd Davies

We’ll leave the ‘Harbour Village’ (free) car park, Goodwick (SM947 388; Postcode: SA64 0DX) at 10:30. This is not the main car park of the village: from the ferry, turn left at the junction above and almost straight to the right (sharp bend up the hill); there is a road sign to the car park on the left after about half a mile.

The Walk: A circular walk of approximately 2½ miles, about two hours, on paths and tracks in the Goodwick and Llanwnda area. From the car park we’ll follow paths to the north and then to the west past Ciliau Farm to reach Llanwnda before returning on a quiet road and a track to the car park. Ascent: about 150 feet. 7 stiles.

Points of interest: The history of the French landing of 1797, the Garn Wen Burial Chamber and the village of Llanwnda.

Socialising over refreshments afterwards: The Rose and Crown, Goodwick (there may be a charge to park nearby at the Railway Station).

[Llun: “Wdig ac Abergwaun” gan nat morris ar Flickr.]

Sgwrs gan John y Graig

Nos Fercher 8 Mai, Neuadd Aber-porth, 7.30

Sgwrs gan John Davies (John y Graig) am ei fagwraeth yn Aber-porth yn y 1920au

Elw at Gronfa Leol Eisteddfod Genedlaethol 2020
£3 wrth y drws. Te a choffi.


A talk in Welsh about his upbringing in Aber-porth in the 1920s, to raise funds for the National Eisteddfod 2020