Dyddiadur Ursula

Mae Ursula yn dysgu gyda ni yn Aberteifi – mae hi wedi wneud un flwyddyn o ddosbarthiadau Mynediad hyd yn hyn, ac yn awyddus iawn i ymarfer ei Chymraeg. Dyma (gyda’i chaniatâd, a dim ond tamaid bach o gywiriadau gen i) yw’r darn mae hi wedi anfon ata i yr wythnos diwetha.

Ursula a Myrddin, y ci

Tridiau ym mis Awst

Dydd Mercher:

Aethon ni i Abertawe i gael aciwbigo am hanner awr wedi deg. Cyn i ni fynd i’r gwersyllfa roedd rhaid i ni gael cinio a casglu pethau o gemydd yn Gaerfyrddyn. Cyrhaeddon ni Lanllwnu, ar ôl i ni yrru ar draws yr mynyddoedd, am bedwar o’r gloch a dechreuon ni ein gwyliau byr.

Roedd hi’n oer a bwrw glaw ond doedd dim ots roedden ni mewn pod glampio.

Dydd Iau:

Mae hi’n neis iawn heddi – heulog a twym! Dw i ddim wedi codi tan tua deg o’r gloch- ron i’n cysgu’n hir iawn! Ar ôl i ni gael brecwast es i am dro gyda Myrddin yn y cae – siaradodd â defaid a triodd dal cwningad. Roedd e’n rhy araf.

Dim ffôn, dim teledu a dim cyfrifiadur – amser hapus!!

Dydd Gwener:

Ar ôl i ni gael brecwast pacion ni ein car i fynd adre. Roedd y tywydd yn ddiflas a bwrw glaw yn drwm. Ar y ffordd aethon ni i Gwmtudu i weld y morloi. Gwelon ni forlo gwryw ond dim morlo benyw. Yn fuan bydd morloi bychain ar y traeth! Ac yna aethon ni siopa, yn ddiflas! Yn anffodus rhaid i ni fwyta. Gyda’r nos, roedd rhaid i ni gynllunio ein gwaith ar gyfer y tri mis nesaf.

Diolch Ursula! Cofiwch bod croeso i unrhywun sy’n dysgu Cymraeg gyda ni i anfon “gwaith cartre” fel hyn er mwyn ei rannu gyda’r dysgwyr eraill. Gobeithio y bydd hyn yn eich ysbrydoli i ysgrifennu rhagor yn y Gymraeg.

Cerddwyr Cylch Teifi – Uwchben Llandudoch – 12 Hydref 2019

Cerddwyr Cylch Teifi: 12 Hydref 2019
Uwchlaw Llandudoch
Arweinydd: Terwyn Tomos

Byddwn yn gadael maes parcio Capel Blaenwaun, Llandudoch (SN 161 448; Cod post: SA43 3JL) am 10:30. 

Y Daith:  Taith gylch o ryw 3 milltir, tua dwy awr, ar lwybr ceffylau ac yn bennaf ar heolydd tawel. Ar ôl ymweliad ag adfeilion yn y coed cyfagos byddwn yn cerdded lan y llwybr ceffylau heibio Fferm Penwaun ac wedyn ar hyd y ffordd galed heibio Trenewydd i gyfeiriad Waunwhiod cyn mynd i lawr Cwm Degwel i groesffordd Pen-cwm lle trown i’r dde ac yn ôl i’r maes parcio. Efallai y tociwn ychydig ar y daith drwy groesi’r caeau rhwng ffermydd Penwaun a Colwyn. Dim sticlau; esgyniad: 280 troedfedd (yn bennaf wrth gerdded y llwybr ceffylau); ychydig o fwd ar ôl tywydd gwlyb yn enwedig wrth y gatiau ar y llwybr ceffylau (ac ar y caeau os awn ni ar eu traws); fel arfer rhaid cadw cŵn ar dennyn (defaid a cheffylau).

Pwyntiau o ddiddordeb: hanes sy’n gysylltiedig â Rhos Gerdd (enw’r adfeilion);  hanes Mallt Williams o blas Pantsaeson, cymwynaswraig fawr i’r Gymraeg yn lleol a chenedlaethol; brwydr Llandudoch (rhwng y Cymry a’r Normaniaid rywle yn yr ardal hon); bedyddfan awyr agored Blaenwaun; golygfeydd godidog.

Cymdeithasu dros luniaeth wedyn: y Cartws neu Dafarn y Ferry yn Llandudoch.


Cerddwyr Cylch Teifi Walkers: 12 October 2019
Above St. Dogmaels
Leader: Terwyn Tomos

We’ll leave Capel Blaenwaun car park, St Dogmaels (SN 161 448; Postcode: SA43 3JL) at 10:30.

The Walk: A circular walk of about 3 miles, about two hours, on a bridleway and mostly on quiet roads. After a visit to ruins in the nearby woods we will walk up the bridleway past Penwaun Farm and then along the hard road past Trenewydd towards Waunwhiod before going down Cwm Degwel to the Pencwm crossroads where we’ll turn right and back to the car park. We may shorten the walk a bit by crossing the fields between Penwaun and Colwyn farms. No stiles; ascent: 280 feet (mainly when walking the bridleway); a little mud after wet weather especially at the gates on the bridleway (and on the fields if we go across them); as usual, dogs must be kept on a lead (because of sheep and horses).

Points of interest: the history associated with Rhos Gerdd (name of the ruins); the story of Mallt Williams of Pantsaeson mansion, who was a great benefactor of the Welsh language locally and nationally; the battle of St. Dogmaels (between the Welsh and the Normans somewhere in this area); Blaenwaun outdoor baptism pool; magnificent views.

Socializing for refreshments afterwards: the Coach House or the Ferry Inn in St Dogmaels.