Dyddiadur Ursula – Ymwelydd o China

Cofnod arall gan Ursula, o’r dosbarth yn Aberteifi.

Yr haf hwn cawson ni ymwelwyr o bell. Suhua oedd fy myfyriwr bedair blynedd ar bymtheg yn ôl ac roedd hi’n byw gyda ni fel lletywr. Aeth yn ôl i China a chollon ni gysylltiad.

Mae ei merch Fei Fei yn mynd i’r ysgol yn Lloegr nawr ac mae Suhua’n dod i’w gweld yn ystod y gwyliau.

Ym mis Awst llogodd gar a gyrru o Ganolbarth Lloegr i Orllewin Cymru i’m gweld – cawson ni lawer o hwyl a llawer o newyddion i’w cyfnewid.

Mae Fei Fei yn ferch glyfar iawn ac yn siarad tair iaith yn barod.
Gofynnais iddi: “Wyt ti eisiau dysgu ychydig o Gymraeg?”
“Ydw” meddai.
Wel – dechreuon ni gyda rhifau o un i ddeg ond anghofiodd hi wyth a naw. Felly roedd yn rhaid i’w draig Gymraeg fach goch helpu – mae’r ddraig fach hon yn hudol ac yn rhugl mewn Cymraeg!

Cyn iddi fynd adref rhoddais lyfr bach iddi – TEACH YOUR DOG WELSH. Mae hi’n siarad Cymraeg gyda’i chi nawr!

Diolch eto Ursula!