Syniad daeth i law oddi wrth Pete y Piano yw sefydlu adran ar y blog (ac yn y cylchlythyr) i gynnwys adolygiadau o lyfrau mae pobl wedi eu mwynhau’n ddiweddar. Dyma ni felly, gyda pwt bach gan Pete ar nofel mae e’n ei hargymell, Hafan Deg gan Siân Rees. Os hoffech chi gyfrannu at yr adran yma, anfonwch eich adolygiadau aton ni trwy ebost, os gwelwch yn dda.
Daeth Byrti i’r byd o dan amgylchiadau amheus . Wrth symud i Rhyl [yn 18 oed] am hyfforddiant milwrol sylfaenol cafodd e ei fabwysiadu gan deulu llawer mwy gofalgar na’r un yn ôl yn y Cymoedd . Ar ôl hynny roedd e’n parhau i gael profiadau a oedd yn amrwyio o’r aruchel i’r erchyll.
Mae’r rhyddiaith yr ysgrifennwyd y nofel ynddi yn amlwg yn ddarllenadwy. Ar ben hynny mae gostyngiad sylweddol ar y pris os dych chi’n archebu yn uniongyrchol o “Garreg Gwalch” sef £3.00 yn lle £8.00 – cliciwch yma i archebu’ch copi.
(Os bydd y cynnig arbennig wedi dod i ben erbyn i chi ddarllen yr uchod, mae’r llyfr ar gael o Gwales ac Amazon hefyd. Diolch Pete!)