Digwyddiadau Llambed a Dyffryn Aeron

Wedi cael neges gan Nia Llywelyn sy’n rhestri rhai o’r digwyddiadau Cymraeg yn Nyffryn Aeron a Llanbedr Pont Steffan:

4 Tachwedd, 7:30 pm. Bingo Bananas gyda’r comediwr Noel James yn Castle Green, Llanbed, raffl ar y noson. Croeso i bawb

12 Tachwedd 3:30 pm. Sgwrs ar y Sul gyda Geraint Morgan. Bywyd fferyllydd!
Tafarn y Vale, Dyffryn Aeron.

24 Tachwedd 7:30 pm. Noson o Farddoniaeth a bach o ffidil gyda Iestyn Tyne. Yn cefnogi mae’r prifardd Hywel Griffiths.
Tafarn y Vale, Dyffryn Aeron. Croeso i bawb

25 Tachwedd 7:30 pm. Noson gyda Owen Shiers, Cynefin. Neuadd Fictoria, Llanbed. Pris mynediad £5, £3 i blant

10 Rhagfyr 3 pm. Sgwrs ar y Sul gyda teulu Gwarffynnon. Dewch i glywed sut wnaeth Gwarffynnon ddechrau bar llaeth. Tafarn y Vale, Dyffryn Aeron.

12 Ionawr  7:30 pm. Noson Y Fari Lwyd gyda Gwilym Bowen Rhys, Neuadd Fictoria, Llanbed £5 oedolion, £3 plant. Croeso i bawb.

Plygain yr Hen Galan

12 Ionawr 2020, nos Sul

Plygain yr Hen Galan

yn Hen Gapel Llwynrhydowen, SA44 4QB

(i ddechrau am 7.00 yr hwyr)

Dewch i ddathlu’r Plygain gyda Chymdeithas Ceredigion – cynhelir y gwasanaeth am 7yh, nos Sul 12 Ionawr, yn y capel diddorol a hanesyddol. (Cyfeiriad: Maesyrodyn, Rhydowen, SA44 4QB. Mae ar yr A475 o Bren-gwyn i Lanwnnen, lle mae’n croesi’r B4459 rhwng Pontsiân a Chapel Dewi)

Croeso i bawb.

[Llun: Pasiant Llwynrhydowen, 1954, o Gasgliad y Werin]


Traditional Plygain service of unaccompanied Welsh carols.

Come and celebrate the Plygain with Cymdeithas Ceredigion – the service will be held at 7pm, Sunday 12 January 2020, in the interesting and historic chapel. (Address: Maesyrodyn, Rhydowen, SA44 4QB. It is on the A475 from Pren-gwyn to Llanwnnen, where it crosses the B4459 between Pontsiân and Capel Dewi)

A warm welcome to all.

Côr Dysgwyr Aberteifi

[scroll down for English]

Dyddiadau – Pwysig:

  1. Bydd ymarferion ddydd Sul 5ed, 12fed a 19eg Ionawr 2020  yn y Seler am 4.30
  2. Fydd dim ymarferion 26ain Ionawr, 2il Chwefror, 9fed Chwefror 2020
  3. Bydd y côr yn canu mewn noson anffurfiol nos Fercher 5ed Chwefror 2020. Bydd yn noson ar gyfer Dysgwyr gyda Merched y Wawr Aberteifi. Peidiwch poeni – fydd hi ddim yn gyngerdd, dim ond ychydig o ganeuon a bydd pobl eraill yn canu gyda ni!
  4. Bydd yr ymarferion rheolaidd yn dechrau eto ddydd Sul 16eg Chwefror 2020  yn y Seler am 4.30 a bydd ymarfer bob dydd Sul ar ôl hynny.
  5. Bydd y côr yn gobeithio canu yn Eisteddfod y Dysgwyr yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Wener 27ain Mawrth 2020
  6. Bydd y côr yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron un diwrnod yn ystod yr wythnos gyntaf ym mis Awst 2020. 

Rhowch y dyddiadau yn eich dyddiadur nawr!

Bydd yr ymarferion bob dydd Sul am 4.30 yn Y Selar, Aberteifi. 

Os dych chi eisiau ymuno â’r côr, neu os oes diddordeb gyda chi ond dydych chi ddim yn siŵr, rhaid i chi gysylltu â Philippa. Dim ond pobl sy wedi cysylltu â Philippa fydd yn cael y wybodaeth diweddaraf am y côr.  philippa.gibson@gmail.com     01239 654561 

Dyma nodiadau am y côr:

  1. Margaret Daniel fydd arweinydd y côr.
  2. Bydd y côr, o’r enw ‘Côr Cadwgan’, yn perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron (1-8 Awst 2020), ond dyw’r union ddyddiad ddim ar gael eto. Bydd rhagbrofion i weld pa 3 chôr fydd yn mynd ymlaen i gystadlu ar y llwyfan.
  3. Hefyd, bydd Eisteddfod y Dysgwyr yn Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Wener, 27/3/20, a bydd y côr yn perfformio’r un darn yno.
  4. Bydd yr ymarferion bob prynhawn Sul am 4.30 – 6.00, yn Y Selar, (The Cellar), Stryd y Cei, gyferbyn â’r Castell yn Aberteifi. Mae grisiau i fynd i lawr i’r Selar trwy’r caffi.  https://tinyurl.com/yselarcellar
  5. Bydd rhaid i’r aelodau ymrwymo i ddod i’r ymarferion bob tro yn y flwyddyn newydd, oni bai eu bod yn sâl neu fod rhywbeth allan o’r cyffredin yn codi.
  6. Mae rhaid i’r côr gael rhwng 13 a 40 o aelodau, ac mae’n bosibl i 25% ohonyn nhw fod yn Gymry Cymraeg.
  7. Bydd angen i bawb ddysgu’r gân (Gymraeg, wrth gwrs) ar eu cof, heb ddarllen y geiriau yn y perfformiad. Bydd Margaret yn gallu rhoi caset neu CD gyda’ch rhan i’w ymarfer gartref. Does dim angen gallu darllen cerddoriaeth. 
  8. Efallai bydd angen i bawb dalu bob wythnos (tua £1), er mwyn talu costau’r côr a’r ffi i gystadlu yn yr Eisteddfod. Fydd Margaret ddim yn codi tâl iddi hi ei hunan.
  9. Bydd Margaret yn dysgu ac arwain y côr yn ddwyieithog.

________________________________________________

Cardigan Welsh Learners’ Choir

Dates – Important: 

  1. There will be rehearsals on Sunday 5th, 12th and 19th January 2020 in the Cellar at 4.30
  2. There won’t be rehearsals 26th January, 2nd February, or 9th February 2020
  3. The choir will sing in an informal evening on Wednesday 5th February 2020. It will be an evening for Learners with Merched y Wawr Cardigan. Don’t worry – it won’t be a concert, just a few songs and other people will sing with us! 
  4. Regular rehearsals will start again on Sunday 16th February 2020 in the Cellar at 4.30 and there will be rehearsal every Sunday after that. 
  5. The choir hopes to sing at the Learners’ Eisteddfod at Aberystwyth Arts Centre on Friday 27th March 2020
  6. The choir will be competing at the National Eisteddfod in Tregaron one day during the first week of August 2020. 

Put the dates in your diary now!

Rehearsals will be every Sunday at 4.30 at The Cellar Bar, Cardigan.

If you want to join the choir, or are interested but you’re not sure, you must contact Philippa. Only people who have contacted Philippa will get updates about the choir. philippa.gibson@gmail.com 01239 654561

Here are some further details about the choir:

  1. The choir will be conducted by Margaret Daniel. 
  2. The choir, known as ‘Côr Cadwgan’, will perform at the National Eisteddfod in Tregaron (1-8 August 2020), but the exact date is not yet available. There will be prelims to see which 3 choirs will go on to compete on stage. 
  3. There will also be a Learners’ Eisteddfod at the Great Hall, Aberystwyth Arts Centre on Friday, 27/3/20, where the choir will perform the same piece. 
  4. Rehearsals will be every Sunday afternoon at 4.30 – 6.00, at The Cellar, Quay Street, opposite the Castle in Cardigan. There are steps down to the Cellar through the café.   https://tinyurl.com/yselarcellar
  5. Members will have to commit to come to the rehearsals every time in the new year, unless they are ill or something out of the ordinary arises. 
  6. The choir must have between 13 and 40 members, and 25% of them can be Welsh speakers.
  7. Everyone will need to learn the song (in Welsh, of course) by heart, without reading the words in the performance. Margaret will be able to provide a cassette or CD for you to practice at home. You don’t need to be able to read music. 
  8. Possibly everyone will need to pay every week (about £1), to cover the costs of the choir and the fee to compete in the Eisteddfod. Margaret will not charge anything for her work.
  9. Margaret will teach and conduct the choir bilingually. 

Sesiwn Barlys, Aberteifi

27 Ebrill 2019

Sesiwn Barlys – yn dathlu Dydd Sadwrn Barlys traddodiadol Aberteifi. Dewch i fwynhau cwmni ffrindiau, cwrw a diodydd lleol ac adloniant gan Ail Symudiad, Côr Corlan a Bois y Frenni.

Mae tocynnau ar gael o siop y Castell, neu arlein fan hyn.

Mae Castell Aberteifi am gynnig gostyngiad o 50% i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg gyda ni yn Nhŷ Cadwgan. Cystylltwch â Philippa ar 01239 654561 neu pgg@aber.ac.uk i gael côd arbennig i’w ddefynddio wrth archebu eich tocynnau.


27 April 2019

Sesiwn Barlys – celebrating Cardigan’s traditional Barley Saturday. Come and enjoy the company of friends, local beers and drinks as well as entertainment from Ail Symudiad, Côr Corlan and Bois y Frenni.

Tickets are available from the Castle shop, or online here.

Cardigan Castle is offering a 50% discount to those learning Welsh with us at Tŷ Cadwgan. Contact Philippa on 01239 654561 or pgg@aber.ac.uk for a special code to use when booking your tickets.

Cyngerdd Ysgol T.Llew

7.00yh, Nos Iau Ebrill 11eg Ysgol T Llew Jones, Brynhoffnant

Cyngerdd i godi arian at Eisteddfod Genedlaethol 2020

Perfformwyr:
Côr y Cynhaeaf – arweinydd Terence Lloyd
Gwenith Evans (soprano)
Cennydd Jones (digrifwr)
Itemau gan blant yr Ysgol

Llywyddion gwadd: Gregg ac Annie Lynn, Caerwedros.

Tocynnau £10 oedolion, £5 i blant ysgol uwchradd, am ddim i blant ysgol gynradd

Tocynnau ar gael yn: Ysgol T.Llew Jones, Garej Brynhoffnant, Caffi Emlyn