Côr Dysgwyr Aberteifi

[scroll down for English]

Bydd y cyfarfod nesa ddydd Sul 15/12/19 am 4.30 yn Y Selar. Dewch i geisio!

Bydd yr ymarferion bob dydd Sul am 4.30 yn Y Selar, Aberteifi. Bydd ymarferion anffurfiol ar 3 dyddiad cyn y Nadolig i ddysgu carolau Nadolig, a bydd yr ymarferion ar gyfer yr Eisteddfod yn dechrau yn y flwyddyn newydd.

Os dych chi eisiau ymuno â’r côr, neu os oes diddordeb gyda chi ond dydych chi ddim yn siŵr, rhaid i chi gysylltu â Philippa. Dim ond pobl sy wedi cysylltu â Philippa fydd yn cael y wybodaeth diweddaraf am y côr.  philippa.gibson@gmail.com     01239 654561 

Dyma nodiadau am y côr:

  1. Margaret Daniel fydd arweinydd y côr.
  2. Bydd y côr, o’r enw ‘Côr Cadwgan’, yn perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron (1-8 Awst 2020), ond dyw’r union ddyddiad ddim ar gael eto. Bydd rhagbrofion i weld pa 3 chôr fydd yn mynd ymlaen i gystadlu ar y llwyfan.
  3. Hefyd, bydd Eisteddfod y Dysgwyr yn Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Wener, 27/3/20, a bydd y côr yn perfformio’r un darn yno.
  4. Bydd yr ymarferion bob prynhawn Sul am 4.30 – 6.00, yn Y Selar, (The Cellar), Stryd y Cei, gyferbyn â’r Castell yn Aberteifi. Mae grisiau i fynd i lawr i’r Selar trwy’r caffi.  https://tinyurl.com/yselarcellar
  5. Bydd rhaid i’r aelodau ymrwymo i ddod i’r ymarferion bob tro yn y flwyddyn newydd, oni bai eu bod yn sâl neu fod rhywbeth allan o’r cyffredin yn codi.
  6. Dyw’r dyddiadau ar ôl y Nadolig ddim yn bendant eto. Efallai bydd rhai ymarferion ym mis Ionawr, ond efallai fydd y côr ddim yn dechrau tan fis Chwefror.
  7. Bydd ymarferion llai ffurfiol i ddysgu carolau’r Nadolig 17/11/19, 24/11/19, a 15/12/19. Trwy’r ymarferion hyn, bydd Margaret yn gallu dod i ddeall pa fath o gôr yw e, ac yn mynd ymlaen wedyn i ddewis darn 5 munud sy’n addas i’w ganu yn yr Eisteddfod. Hefyd, bydd yn bosibl i chi ddod i nabod y côr ac wedyn penderfynu ymuno neu beidio.
  8. Mae rhaid i’r côr gael rhwng 13 a 40 o aelodau, ac mae’n bosibl i 25% ohonyn nhw fod yn Gymry Cymraeg.
  9. Bydd angen i bawb ddysgu’r gân (Gymraeg, wrth gwrs) ar eu cof, heb ddarllen y geiriau yn y perfformiad. Bydd Margaret yn gallu rhoi caset neu CD gyda’ch rhan i’w ymarfer gartref. Does dim angen gallu darllen cerddoriaeth. 
  10. Efallai bydd angen i bawb dalu bob wythnos (tua £1), er mwyn talu costau’r côr a’r ffi i gystadlu yn yr Eisteddfod. Fydd Margaret ddim yn codi tâl iddi hi ei hunan.
  11. Bydd Margaret yn dysgu ac arwain y côr yn ddwyieithog.

________________________________________________

Cardigan Welsh Learners’ Choir

The next meeting will be on Sunday 15/12/19 at 4.30 at The Cellar Bar. Come and give it a go!

Rehearsals will be every Sunday at 4.30 at The Cellar Bar, Cardigan. There will be informal rehearsals on 3 dates before Christmas to learn Christmas carols, and rehearsals for the Eisteddfod will begin in the new year.

If you want to join the choir, or are interested but you’re not sure, you must contact Philippa. Only people who have contacted Philippa will get updates about the choir. philippa.gibson@gmail.com 01239 654561

Here are some further details about the choir:

  1. The choir will be conducted by Margaret Daniel. 
  2. The choir, known as ‘Côr Cadwgan’, will perform at the National Eisteddfod in Tregaron (1-8 August 2020), but the exact date is not yet available. There will be prelims to see which 3 choirs will go on to compete on stage. 
  3. There will also be a Learners’ Eisteddfod at the Great Hall, Aberystwyth Arts Centre on Friday, 27/3/20, where the choir will perform the same piece. 
  4. Rehearsals will be every Sunday afternoon at 4.30 – 6.00, at The Cellar, Quay Street, opposite the Castle in Cardigan. There are steps down to the Cellar through the café.   https://tinyurl.com/yselarcellar
  5. Members will have to commit to come to the rehearsals every time in the new year, unless they are ill or something out of the ordinary arises. 
  6. Dates after Christmas are not yet clear. There may be some rehearsals in January, but the choir may not start until February.
  7. Less formal rehearsals to learn Christmas carols will take place 17/11/19, 24/11/19, and 15/12/19. Through these rehearsals, Margaret will be able to understand what the choir is like, and then go on to choose a 5 minute piece suitable for singing at the Eisteddfod. You will also be able to get to know the choir and then decide whether or not to join.
  8. The choir must have between 13 and 40 members, and 25% of them can be first language Welsh speakers. 
  9. Everyone will need to learn the song (in Welsh, of course) by heart, without reading the words in the performance. Margaret will be able to provide a cassette or CD for you to practice at home. You don’t need to be able to read music. 
  10. Possibly everyone will need to pay every week (about £1), to cover the costs of the choir and the fee to compete in the Eisteddfod. Margaret will not charge anything for her work.
  11. Margaret will teach and conduct the choir bilingually.