Month: December 2019

  • Merched y Wawr Aberteifi – Noson y Dysgwyr

    Merched y Wawr Cylch Teifi

    Noson ar gyfer Dysgwyr

    Nos Fercher 5ed o fis Chwefror 2020 am 8y.h.

    Festri Capel Mair (drws wrth ochr y Capel ar Feidr Fair, ger Sgwâr Ffinch)

    Gweithgareddau ac wedyn te Cymreig gyda bara brith a phicau bach. Mae croeso i chi ddod â phlataid o fwyd i’w rannu os dych chi eisiau, ond does dim rhaid.

    Dewch i joio – Dewch i sgwrsio

    Croeso cynnes i bawb

    Er mwyn i ni gael syniad am faint fydd yn dod, rhowch enwau i’ch tiwtor neu i Philippa Gibson 01239 654561    pgg@aber.ac.uk

    _________________________________________________-

    Merched y Wawr Cylch Teifi

    Welsh learners’ evening

    Wednesday 5th February 2020 at 8pm

    Capel Mair Vestry (door beside the Chapel on Feidr Fair, near Finch Square)

    Activities and then a Welsh tea with bara brith and Welsh cakes. You’re welcome to bring a plate of food to share if you want to, but there’s no need. 

    Come for fun – Come and talk

     A warm welcome to all

    So that we can have an idea of how many will come, please give names to your tutor or to Philippa Gibson 01239 654561   pgg@aber.ac.uk

  • Theatr Genedlathol Cymru – Tylwyth

    28/3/20
    Theatr Mwldan
    Theatr Genedlaethol Cymru, Drama: Tylwyth 

    Sgwrs cyn sioe i ddysgwyr am 6.30, perfformiad am 7.30

    Pris Bargen i ddysgwyr a’r Cymry sy’n helpu yn y dosbarthiadau: £8. (Mae angen dweud ‘grŵp Philippa’ wrth fwcio, ond gallwch ddewis eich sedd unrhyw le.

    Gwasanaeth Sibrwd ar gael i helpu dysgwyr i ddilyn y ddrama

    https://www.mwldan.co.uk/cy/node/8493#.Xfv6BehT_nE
    http://theatr.cymru/portfolio/tylwyth/

  • Plygain yr Hen Galan

    Plygain yr Hen Galan

    12 Ionawr 2020, nos Sul

    Plygain yr Hen Galan

    yn Hen Gapel Llwynrhydowen, SA44 4QB

    (i ddechrau am 7.00 yr hwyr)

    Dewch i ddathlu’r Plygain gyda Chymdeithas Ceredigion – cynhelir y gwasanaeth am 7yh, nos Sul 12 Ionawr, yn y capel diddorol a hanesyddol. (Cyfeiriad: Maesyrodyn, Rhydowen, SA44 4QB. Mae ar yr A475 o Bren-gwyn i Lanwnnen, lle mae’n croesi’r B4459 rhwng Pontsiân a Chapel Dewi)

    Croeso i bawb.

    [Llun: Pasiant Llwynrhydowen, 1954, o Gasgliad y Werin]


    Traditional Plygain service of unaccompanied Welsh carols.

    Come and celebrate the Plygain with Cymdeithas Ceredigion – the service will be held at 7pm, Sunday 12 January 2020, in the interesting and historic chapel. (Address: Maesyrodyn, Rhydowen, SA44 4QB. It is on the A475 from Pren-gwyn to Llanwnnen, where it crosses the B4459 between Pontsiân and Capel Dewi)

    A warm welcome to all.