Dyddiadur Ursula – Ein Hwythnos Enlli

EIN HWYTHNOS ENLLI

19 i 26 Mehefin 2021

Naethon ni benderfynu y llynedd i gael gwyliau ar Ynys Enlli ond cafodd hynny ei ganslo oherwydd Covid. Ron ni’n ffodus iawn i fynd eleni felly ar Enlli am wythnos ym mis Mehefin – am ddiwrnod hiraf y flwyddyn!

Dyma fy nyddiadur Enlli:

Dydd Sadwrn: Cyrhaeddon ni mewn cwch o Benrhyn Llyn, dim ond 20 munud. Daethpwyd â’n bagiau i’r bwthyn bach, o’r enw LLOFFT PLAS. Bwthyn bach hyfryd yw hwn i ddau o bobl gyda golygfa goleudy! Mae’r ffermwyr yn coginio ac yn dod â’r prydau i’r bwthyn – fel DELIVEROO ond yn well! Dechreuon ni’r diwrnod hwn yn gynnar iawn felly aethon ni i’r gwely yn gynnar hefyd! Yn barod ar gyfer dydd Sul — ein diwrnod llawn cyntaf ar Enlli!

Dydd Sul: Cawsom frecwast yn yr ardd fach o flaen ein bwthyn, yn edrych ar y goleudy coch a gwyn a 10m o daldra, nefoedd! Roedd hi mor heddychlon, dim ceir, dim teledu na radio na ffonau symudol …. Dim ond synau adar a synau defaid a gwartheg. Ar ôl brecwast aethon ni i weld y goleudy a’r morloi. Roedd yna lawer o forloi yn yr harbwr, yn chwarae gyda’i gilydd yn y môr ac yn torheulo ar y creigiau. Roedd y tywydd yn hyfryd, eisteddon ni am hanner dydd am bicnic, gan fwynhau’r lle arbennig hwn. Mae popeth yn arafu pan wyt ti ar ynys! Gwelson ni bâl, hugan, mulfran, llawer o biod y môr swnllyd iawn ac yn y nos canodd y aderyn drycin manaw: “NETANYAHU” – dw i ddim yn gwybod sut maen nhw’n gwybod ei enw ……

Dydd Llun: Dringon ni fynydd Enlli, dim ond 167m o uchder, ond gyda golygfa hardd dros y don i Benrhyn Llŷn. Dreulion ni ychydig o oriau yn eistedd, edrych a gwrando. Gyda’r nos ron ni’n chwarae SCRABBLE ENLLI – dim ond geiriau am Enlli. Naethon ni benderfynu dod yma bob blwyddyn ar gyfer ein gwyliau – mae’n agos at adref (dim ond 3 awr!!) mewn car ond mae fel lle gwahanol iawn, arbennig iawn.

Dydd Mawrth: Mae Enlli yn 2.5 milltir o hyd a 1.5 milltir o led felly aethon ni am dro diddorol a hir iawn. Gwelson ni’r capel a’r fynwent a darllen am hanes Enlli. Naethon ni gwrdd â wardeiniaid Enlli ac oedd ar y teledu ar “Garddio a Mwy” S4C fis yn ôl. Ron ni am weld eu gardd a siarad am arddio yno. Ac yna naethon ni feddwl am wirfoddoli yn Enlli a gweithio fel garddwyr ym mis Hydref.

Hwrê!!!! Dyn ni’n dod yn ôl!!!

Dydd Mercher a dydd Iau: (roedd y tywydd hyfryd, heulog a dim llawer o wynt- yn bwysig iawn pan wyt ti’n ar gwch bach ar y môr!!)

Mae’r ffermwr hefyd yn bysgotwr ac yn mynd i bysgota am grancod a chimychiaid bron bob dydd. Am ddau ddiwrnod aethon ni gydag ef a dysgu llawer am bysgota a’r môr!

Mae’n gweithio’n galed iawn ond mae hefyd yn gynaliadwy iawn, mae’n mesur y cimychiaid yn ofalus iawn!

Naethon ni fwyta dau bryd gyda chrancod ffres iawn!

Dydd Gwener:

Roedd y tywydd yn wyntog ac yn bwrw glaw trwy’r dydd ond aethon ni am dro beth bynnag oherwydd roedd hi’n ddiwrnod olaf i ni ar Enlli ac ron ni am brofi’r holl dywydd gwahanol – cawson ni ein dillad gwrth-ddŵr a mwynhau’r diwrnod! Roedd rhaid i ni gael ein te prynhawn olaf a ffarwelio â’r ffermwyr a’r wardeiniaid. Ron ni’n drist iawn gadael Enlli ond yn hapus i ddod yn ôl ym mis Hydref!

Tynnais lawer o luniau – dyma “morlo hapus” –