Dyddiadur Ursula – Ein Hwythnos Enlli

EIN HWYTHNOS ENLLI

19 i 26 Mehefin 2021

Naethon ni benderfynu y llynedd i gael gwyliau ar Ynys Enlli ond cafodd hynny ei ganslo oherwydd Covid. Ron ni’n ffodus iawn i fynd eleni felly ar Enlli am wythnos ym mis Mehefin – am ddiwrnod hiraf y flwyddyn!

Dyma fy nyddiadur Enlli:

Dydd Sadwrn: Cyrhaeddon ni mewn cwch o Benrhyn Llyn, dim ond 20 munud. Daethpwyd â’n bagiau i’r bwthyn bach, o’r enw LLOFFT PLAS. Bwthyn bach hyfryd yw hwn i ddau o bobl gyda golygfa goleudy! Mae’r ffermwyr yn coginio ac yn dod â’r prydau i’r bwthyn – fel DELIVEROO ond yn well! Dechreuon ni’r diwrnod hwn yn gynnar iawn felly aethon ni i’r gwely yn gynnar hefyd! Yn barod ar gyfer dydd Sul — ein diwrnod llawn cyntaf ar Enlli!

Dydd Sul: Cawsom frecwast yn yr ardd fach o flaen ein bwthyn, yn edrych ar y goleudy coch a gwyn a 10m o daldra, nefoedd! Roedd hi mor heddychlon, dim ceir, dim teledu na radio na ffonau symudol …. Dim ond synau adar a synau defaid a gwartheg. Ar ôl brecwast aethon ni i weld y goleudy a’r morloi. Roedd yna lawer o forloi yn yr harbwr, yn chwarae gyda’i gilydd yn y môr ac yn torheulo ar y creigiau. Roedd y tywydd yn hyfryd, eisteddon ni am hanner dydd am bicnic, gan fwynhau’r lle arbennig hwn. Mae popeth yn arafu pan wyt ti ar ynys! Gwelson ni bâl, hugan, mulfran, llawer o biod y môr swnllyd iawn ac yn y nos canodd y aderyn drycin manaw: “NETANYAHU” – dw i ddim yn gwybod sut maen nhw’n gwybod ei enw ……

Dydd Llun: Dringon ni fynydd Enlli, dim ond 167m o uchder, ond gyda golygfa hardd dros y don i Benrhyn Llŷn. Dreulion ni ychydig o oriau yn eistedd, edrych a gwrando. Gyda’r nos ron ni’n chwarae SCRABBLE ENLLI – dim ond geiriau am Enlli. Naethon ni benderfynu dod yma bob blwyddyn ar gyfer ein gwyliau – mae’n agos at adref (dim ond 3 awr!!) mewn car ond mae fel lle gwahanol iawn, arbennig iawn.

Dydd Mawrth: Mae Enlli yn 2.5 milltir o hyd a 1.5 milltir o led felly aethon ni am dro diddorol a hir iawn. Gwelson ni’r capel a’r fynwent a darllen am hanes Enlli. Naethon ni gwrdd â wardeiniaid Enlli ac oedd ar y teledu ar “Garddio a Mwy” S4C fis yn ôl. Ron ni am weld eu gardd a siarad am arddio yno. Ac yna naethon ni feddwl am wirfoddoli yn Enlli a gweithio fel garddwyr ym mis Hydref.

Hwrê!!!! Dyn ni’n dod yn ôl!!!

Dydd Mercher a dydd Iau: (roedd y tywydd hyfryd, heulog a dim llawer o wynt- yn bwysig iawn pan wyt ti’n ar gwch bach ar y môr!!)

Mae’r ffermwr hefyd yn bysgotwr ac yn mynd i bysgota am grancod a chimychiaid bron bob dydd. Am ddau ddiwrnod aethon ni gydag ef a dysgu llawer am bysgota a’r môr!

Mae’n gweithio’n galed iawn ond mae hefyd yn gynaliadwy iawn, mae’n mesur y cimychiaid yn ofalus iawn!

Naethon ni fwyta dau bryd gyda chrancod ffres iawn!

Dydd Gwener:

Roedd y tywydd yn wyntog ac yn bwrw glaw trwy’r dydd ond aethon ni am dro beth bynnag oherwydd roedd hi’n ddiwrnod olaf i ni ar Enlli ac ron ni am brofi’r holl dywydd gwahanol – cawson ni ein dillad gwrth-ddŵr a mwynhau’r diwrnod! Roedd rhaid i ni gael ein te prynhawn olaf a ffarwelio â’r ffermwyr a’r wardeiniaid. Ron ni’n drist iawn gadael Enlli ond yn hapus i ddod yn ôl ym mis Hydref!

Tynnais lawer o luniau – dyma “morlo hapus” –

Garddio – ein ffordd, nid yr unig ffordd

Dyma Ursula gyda’r hanes o sut mae hi’n trin ei gardd ei hunan – dim ond Rhan 1 yw hyn, bydd rhagor yr wythnos nesa!

Dw i’n tyfu blodau ar gyfer peillwyr yn unig, planhigion brodorol yn bennaf ond bob amser yn fwyd i wenyn a gloÿnnod byw.

Dim ond hadau organig dw i’n eu prynu! Bob blwyddyn dw i’n rhoi cynnig ar rywbeth newydd!

Mae’r cosmos fel pili-pala!

Dyn ni’n caniatáu i chwyn (beth yw chwyn?) dyfu yn ein gardd a dim ond ychydig o weithiau dyn ni’n torri’r glaswellt yn ystod yr haf.

Mae Myrddin a lola yn mwynhau chwarae pel droed yn y glaswellt hir gyda llygad y dydd bach gwyn!

Dyma’n ffrind gorau! Mae’n draenog yn bwyta bob malwen a gwlithen – datrys problemau!

Dyn ni’n hoffi ffa dringo! Dyn ni wedi’u hau yn gynharach yn y flwyddyn ac nawr, ym mis Awst, gallwn ni eu bwyta! Roedd y gwenyn yn brysur yn eu peillio! Swydd dda iawn!

Dwy Flynedd Arbennig

Roedd yn gariad ar yr olwg gyntaf!

Cwrddon ni ym mis Medi ac symudon ni at ei gilydd ym mis Hydref. Dysgon ni lawer o bethau newydd gyda’n gilydd ac oddi wrth ein gilydd.
Teithion ni o amgylch Cymru a’r Alban a mwynhau bod gyda ffrindiau a theulu. Mae pawb yn gweld ein bod mewn cariad ac dyn ni’n cael amser rhyfeddol!

Ar y daith gwelon ni lawer o leoedd gwahanol a diddorol. Ein lle gorau oedd y traeth oherwydd dyn ni’n hoffi cerdded wrth y môr, gwylio machlud haul a chael picnic ar y traeth. Dyn ni’n hefyd yn hoffi eistedd yn yr ardd a gwylio adar, pili-pala a gwenyn – dyn ni’n mwynhau bywyd syml!

Mae pobl sy’n fy adnabod yn gwybod am beth dw i’n siarad!

Taith Iaith Ursula

Hen bâr o sgidiau cerdded, sy bellach yn cael eu defnyddio fel potiau planhigion. Llun gan Ursula

Cofnod dyddiadur arall gan Ursula – hi sy biau’r llun hyfryd hefyd. Diolch yn fawr i ti Ursula, ac edrychwn ymlaen at barhau’r daith gyda Cwrs Canolradd yn yr Hydref!

Fy nhaith iaith

 Dw i wedi gwylio pob IAITH AR DAITH ar S4C bob nos Sul am wyth o’r gloch.

Ruth Jones oedd y gorau hyd yn hyn. Mae hi’n hamddenol ac yn ddoniol ac dyw hi’n ddim yn boeni am wneud camgymeriadau.

Mae hi’n chwerthin ac yn ceisio eto.

Gallwn ddysgu llawer ganddi. Mae llawer o bobl, gan gynnwys fi, eisiau bod yn berffaith cyn iddyn nhw ddechrau siarad yr iaith ond mae’n bwysig iawn  “ymarfer” yr iaith a gwneud camgymeriadau.

Dw i’n gwybod bod pawb yn wahanol ac dyn ni’n dysgu’n wahanol hefyd. Unwaith eto, dyn ni’n lwcus iawn yma yng ngorllewin Cymru oherwydd bod pobl yn siarad yn glir ac yn araf. Mae’n pethau a rhaglenni gwahanol arlein ac ar y teledu a’r radio i’n helpu ni a gwneud dysgu’n llawer o hwyl .

Dw i’n ceisio gwneud un peth Cymraeg bob dydd – ysgrifennu ebost neu neges ar WhatsApp neu’r ffôn symudol, darllen llyfr (gan Lois Arnold) neu gylchgrawn, edrych ar S4C, sgwrsio ar Zoom gyda phobl newydd (mae hynny’n frawychus iawn weithiau) am bethau diddorol a doniol. Dw i’n mwynhau sgwrsio ar Zoom yn fwy nag yn y dafarn achos nid oes sŵn cefndir a gallwch glywed yn glir!

Dw i’n ffodus iawn i ddysgu Cymraeg. Mae fy mhartner yn gefnogol iawn – mae hi’n prynu llyfrau i mi ac yn gwylio’r rhagleni Cymraeg gyda fi (gyda  isdeitlau wrth gwrs!). Yn 2011 dechreuon ni ddysgu Cymraeg gyda’n gilydd ond roedd rhaid i ni stopio oherwydd ein gwaith caled a dyn ni’n rhy flinedig i ddysgu yr iaith gyda’r nos. Nawr, dw i’n dysgu yn ystod y dydd ac mae’n haws o lawer.

Diolch i’r Gymraeg dw i’n mwynhau darllen ac ysgrifennu eto ar ôl blynyddoedd lawer o beidio a darllen yn Almaeneg na Saesneg. Dw i wedi dod o hyd i fy hoff iaith! Ac mae’n dda i’m hymennydd hefyd, mae’n helpu gyda’r cof! Mae’n fy nghadw’n heini!

Mae pawb yn helpu gyda dysgu yn y siopau, yn y stryd, yn y sinema ac ym mhobman.

Rhaid i ni fod yn ddewr i siarad a phobl a chymryd y cam cyntaf!

Dyddiadur Ursula – Firws Corona a Ni

Dyddiadur bach yn wahanol gan Ursula ym Mlaenporth yr wythnos hon, am resymau amlwg! Diolch i ti Ursula, a chawch yn sâff!

Fel yr haul fe gododd yn y dwyrain a lledaenu’n gyflymach na thân. Yn wahanol i’r haul mae wedi lladd miloedd lawer o bobl a bydd hyd yn oed mwy yn marw.

Mae’r firws hwn wedi lledaenu’n gyflymach na’r ffliw ac wedi effeithio ar fwy o bobl ledled y byd.

Dyn ni i gyd mewn perygl o’i gael ond mae’r perygl mwyaf i’r henoed a’r sâl.

Mae gwleidyddion yn sylweddoli eu bod yn ddi-rym yn erbyn y firws hwn ac mae angen iddynt weithio gyda’i gilydd. Rhaid i bleidiau gwleidyddol weithio gyda’i gilydd ac mae rhaid i wledydd wneud yr un peth i guro’r anghenfil hwn.

Fel optimist hoffwn edrych ar y pethau cadarnhaol: mae’r amgylchedd yn gwella, dyn ni’n dysgu llawer. Sut i gyd-fyw, rhaid i ni i gyd aros gartref! Sut i ddifyrru ein hunain oherwydd na allwn fynd allan i gwrdd â ffrindiau a theulu. Dyn ni’n treulio llawer mwy o amser ar y ffôn ac ar-lein yn siarad â’r bobl dyn ni’n poeni amdanyn nhw.

Dyn ni’n gwario llai o arian yn siopa oherwydd ni allwn fynd allan (dim ond siopa am fwyd).

Dyn ni’n helpu ein ffrindiau a’n cymdogion ac mae ein cymuned yn dod yn fwy gofalgar.

Rhaid i ni ddysgu rheolau newydd i gadw’n ddiogel ac mae’r rheolau ar gyfer holl bobl y byd. Rhaid i ni aros adref felly mae’r ffyrdd yn dawelach nag erioed. Mae arfarchnadoedd yn brysurach nag erioed ac rhaid i ni giwio yn y maes parcio. Rhaid i ni hefyd gadw pellter diogel i eraill. Mae petrol yn rhatach nag erioed (ond dyn ni ddim gallu mynd i unman).

Dyn ni ddim wedi cael y sefyllfa hon o’r blaen yn ystod ein hoes. Mae hyn yn ein huno ni i gyd. Mae’n drueni na allwn ni gael undod mewn amser heddwch.

Weithiau yr amser gwaetha yw’r amser gorau.

Dyddiadur Ursula – Syrffio yn y Coed!

Dyn ni’n hoffi ceisio pethau newydd i gadw’n heini ond roedd hynny’n wahanol iawn.

Ar ôl Nadolig bwcion ni wyliau bach yn lle anrhegion Nadolig a phen-blwydd.

Rhaid i ni drefnu llawer o bethau  i fynd i ffwrdd.

Aeth ein ci i fferm i aros gyda dynes neis iawn a’i chŵn.

Fel arfer dyn ni’n gofalu am ein ffrind yn Aberporth ond nawr penderfynon ni i fynd i fwrdd am dair noson.

Mae hi’n byw ar ei phen ei hun ac mae dementia ‘da hi. Oedd neb i ofalu amdani felly roedd rhaid i ni ffeindio cartref gofal iddi hi.

Daethon ni o hyd cartref hyfryd iawn ger Hwlffordd a cawson nhw ystafell i’n ffrind.

Roedd popeth yn mynd yn dda ac edrychon ni ymlaen at ein gwyliau bach.

Ac yna, rhagolygon y tywydd!! Roedd storm Ciara yn dod ac dyn ni’n mynd i aros mewn tŷ coeden!

Mae’r tŷ coed rhwng chwe choeden dderw a phedwar metr uwchben y ddaear.

“Dim problem!” meddai’r perchennog felly aethon ni!

Teithion ni yn ofalus o Flaenporth i Gemmaes a chyrraedd am dri o’r gloch.

Roedd ein tŷ coed ger afon fach a roedd twb poeth ‘da ni. Roedd y gwres ar gyfer y tŷ ac ar gyfer y twb poeth yn dod o dân coed. Yn gyntaf rhaid i ni  rannu’r boncyffion – ymarfer corff da iawn!

Roedd y tywydd yn stormus iawn am bedwar deg wyth awr. Roedd y tŷ coed yn syrffio ymysg y coed derw. Roedd yn gyffrous ac ychydig yn frawychus ac yn swnllyd iawn.

Daeth adar a gwiwerod i gael cinio gyda ni a thynnais i lawer o luniau.

Cawson ni siglen rhaff a hamog! Gall oedolion cael hwyl fel plant!

Naethon ni ddim gormod, dim ond darllen, cysgu, bwyta ac ymlacio. Weithiau eisteddon ni yn yr hamog ac edrych  ar y bale coed neu mwynhau y twb poeth.

Mae tridiau a thair noson ddim yn digon hir ond roedd yn wyliau hyfryd  ac ymlaciol a dysgon ni gamp newydd – syrffio yn y coed!

Dyddiadur Ursula – Arafwch!

Roedd hi’n noson wlyb a stormus ond death llawer o bobl i’r Caffi Emlyn i fwynhau “Woody Allen, Peter Kay a fi” gan Daniel Davies.

Y tro hwn deallais y teitl – cynnydd!!

Dyw fy Nghymraeg ddim yn dda iawn, felly collais bob jôc ond yr un am rygbi!

Siaradodd Daniel yn gyflym iawn ac roedd gen i arwydd ar fy nhalcen “ARAFWCH” ond oedd yn anweledig – wrth gwrs!

Ac yna gwrandawon ni ar farddoniaeth o ddosbarth barddoniaeth Idris Reynolds. Rhaid i fi brynu’r llyfr i ddarllen yn araf.

Roedd hi’n noson ddymunol iawn, gwelais ffrindiau hen a newydd ac dw i’n edrych ymlaen at ginio Nadolig y mis nesaf. Bydd cwis hefyd, llawer o hwyl!

Dyddiadau Ursula – Allan o’i Pharth Cysurus

Cofnod arall gan Ursula, o’r dosbarth yn Aberteifi. Yr wythnos hon, mae hi’n mentro i gyfarfod Cymdeithas Ceredigion, i gael blas ar “Gymraeg go iawn”. A beth yw “comfort zone” yn y Gymraeg, tybed?

Allan o’r parth cysurus – Dewr neu ffôl?

Dydd Gwener diwethaf es i i Gymdeithas Ceredigion yng Nghaffi Emlyn yn Tanygroes.

Edrychais ymlaen at gwrdd â phobl newydd a siarad Cymraeg.

Yn y dechrau prynais docyn am y noson nid am flwyddyn. Roedd y caffi yn llawn o bobl ac roedden nhw i gyd yn siarad Cymraeg. Dim Saesneg o gwbl!


Roedd rhaid i fi wrando’n galed iawn ond doeddwn i ddim yn deall popeth wrth gwrs!

Dw i’n cofio rhai geiriau a brawddegau:

Gwarchod
Dweud y gwir
Blodau sych
Mae rhwybeth yn y cegin
Mari Lwyd
Croeso pawb

Ond ni ddeallais ddigon- gobeithio deall mwy bob mis.

Cyn i fi adael prynais docyn am y flwyddyn gyfan. Dw i’n mynd yn ôl bob mis i ddysgu a gwrando ar Gymraeg go iawn! (hefyd oherwydd y pryd Nadolig)

Eisteddais wrth ymyl dwy fenyw hyfryd iawn. Naethon ni sgwrsio ac dw i’n edrych ymlaen at gwrdd â nhw eto’r mis nesaf.

Gyrrais adref a theimlo’n ddewr iawn, nid yn ffôl!

Dyddiadur Ursula – Taith i Gaerdydd

Cofnod arall gan Ursula, o’r dosbarth yn Aberteifi. Yr wythnos hon, mae hi wedi bod i’r brifddinas…

Aethon ni i Gaerdydd fore Mawrth. Cyn i ni yrru i Gaerdydd aethon ni i Abertawe i gael aciwbigo a chinio hyfryd mewn bwyty Sbaenaidd. Pam aethon ni i Gaerdydd? Wel, aethon ni i gwrdd â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn y Senedd. Cyfarfod am hanner awr wedi saith gyda’r nos, cawsom fwffe braf iawn ac roedd y noson yn ddiddorol iawn.

Heléna Herklots yw’r Comisiynydd ac mae hi’n gweithio’n galed iawn i sicrhau taw Cymru yw’r lle gorau yn y byd i bobl sy’n heneiddio.

Mae Cymru yn ffodus iawn i gael Comisiynydd, hi yw’r wlad gyntaf yn y byd i gael un. Heléna yw’r trydydd un.

Y peth anhygoel yw bod ganddi bobl o wahanol asiantaethau yn gweithio gyda’i gilydd. Mae’r broblem yr un peth i bawb.

Mae hi’n gobeithio dod i Aberteifi yn fuan i gwrdd â phobl yma. Mae gan hen bobl wahanol broblemau yma i Gaerdydd.

Arhoson ni mewn gwesty ar bwys y Senedd a chodi am chwech o’r gloch i gyrraedd y dosbarth Cymraeg cyntaf yn Aberteifi.

Dyddiadur Ursula – Ymwelydd o China

Cofnod arall gan Ursula, o’r dosbarth yn Aberteifi.

Yr haf hwn cawson ni ymwelwyr o bell. Suhua oedd fy myfyriwr bedair blynedd ar bymtheg yn ôl ac roedd hi’n byw gyda ni fel lletywr. Aeth yn ôl i China a chollon ni gysylltiad.

Mae ei merch Fei Fei yn mynd i’r ysgol yn Lloegr nawr ac mae Suhua’n dod i’w gweld yn ystod y gwyliau.

Ym mis Awst llogodd gar a gyrru o Ganolbarth Lloegr i Orllewin Cymru i’m gweld – cawson ni lawer o hwyl a llawer o newyddion i’w cyfnewid.

Mae Fei Fei yn ferch glyfar iawn ac yn siarad tair iaith yn barod.
Gofynnais iddi: “Wyt ti eisiau dysgu ychydig o Gymraeg?”
“Ydw” meddai.
Wel – dechreuon ni gyda rhifau o un i ddeg ond anghofiodd hi wyth a naw. Felly roedd yn rhaid i’w draig Gymraeg fach goch helpu – mae’r ddraig fach hon yn hudol ac yn rhugl mewn Cymraeg!

Cyn iddi fynd adref rhoddais lyfr bach iddi – TEACH YOUR DOG WELSH. Mae hi’n siarad Cymraeg gyda’i chi nawr!

Diolch eto Ursula!