Dyddiadau Ursula – Allan o’i Pharth Cysurus

Cofnod arall gan Ursula, o’r dosbarth yn Aberteifi. Yr wythnos hon, mae hi’n mentro i gyfarfod Cymdeithas Ceredigion, i gael blas ar “Gymraeg go iawn”. A beth yw “comfort zone” yn y Gymraeg, tybed?

Allan o’r parth cysurus – Dewr neu ffôl?

Dydd Gwener diwethaf es i i Gymdeithas Ceredigion yng Nghaffi Emlyn yn Tanygroes.

Edrychais ymlaen at gwrdd â phobl newydd a siarad Cymraeg.

Yn y dechrau prynais docyn am y noson nid am flwyddyn. Roedd y caffi yn llawn o bobl ac roedden nhw i gyd yn siarad Cymraeg. Dim Saesneg o gwbl!


Roedd rhaid i fi wrando’n galed iawn ond doeddwn i ddim yn deall popeth wrth gwrs!

Dw i’n cofio rhai geiriau a brawddegau:

Gwarchod
Dweud y gwir
Blodau sych
Mae rhwybeth yn y cegin
Mari Lwyd
Croeso pawb

Ond ni ddeallais ddigon- gobeithio deall mwy bob mis.

Cyn i fi adael prynais docyn am y flwyddyn gyfan. Dw i’n mynd yn ôl bob mis i ddysgu a gwrando ar Gymraeg go iawn! (hefyd oherwydd y pryd Nadolig)

Eisteddais wrth ymyl dwy fenyw hyfryd iawn. Naethon ni sgwrsio ac dw i’n edrych ymlaen at gwrdd â nhw eto’r mis nesaf.

Gyrrais adref a theimlo’n ddewr iawn, nid yn ffôl!

Pleser o’r Mwyaf – Dr Rhiannon Ifans

Pleser o’r Mwyaf


Dr Rhiannon Ifans 
yw’n siaradwr gwadd ar ddydd Sadwrn, 30 Tachwedd (11.00am-12.30pm, Y Man a’r Lle Aberteifi, tocynnau £5 wrth y drws), pan fydd yn traddodi ei dewis o bum darn o lenyddiaeth Gymraeg.
Enillodd Rhiannon y Fedal Rhyddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2019 gyda’i nofel Ingrid.

Cafodd ei magu ar fferm Carreg Wian ym mhlwyf Llanidan, Ynys Môn, a’i haddysgu yn Ysgol Gynradd Gaerwen ac Ysgol Gyfun Llangefni. Yna treuliodd sawl blwyddyn yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn astudio iaith a llenyddiaeth Gymraeg, gan werthfawrogi dysg a deallusrwydd eithriadol Geraint Gruffydd a gallu creadigol anghyffredin Bobi Jones. Erbyn hyn mae Rhiannon Ifans yn arbenigo ym meysydd astudiaethau gwerin a llenyddiaeth ganoloesol. Yn 1980 cyhoeddodd gyda’i gŵr, Dafydd, ddiweddariad o chwedlau’r Mabinogion; yn gynharach eleni cyhoeddodd Red Hearts and Roses? Welsh Valentine Songs and Poems.

Llawenydd ei bywyd oedd cael magu tri mab, Gwyddno, Seiriol ac Einion, ac wrth wneud hynny bu’n ysgrifennu cyfrolau i blant ac yn golygu’n llawrydd pan oedd yr hwyl yn taro. Enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2000 am ei chyfrol Chwedlau o’r Gwledydd Celtaidd ac am yr eildro yn 2003 am ei chyfrol Dewi Sant; cyrhaeddodd Owain Glyndŵr: Tywysog Cymru restr fer Gwobr Tir na n-Og yn 2001. Ar ôl i’r plant dyfu’n hŷn, dychwelodd i fyd y brifysgol gan weithio’n gyntaf ym maes Beirdd y Tywysogion ac yna ym maes Beirdd yr Uchelwyr. Wedi hynny treuliodd ddeuddeng mlynedd hapus yn Gymrawd Tucker ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mae’n byw ers blynyddoedd lawer ym Mhenrhyn-coch yn ardal Aberystwyth, ac mae’n teithio’n rheolaidd i Gaerdydd i warchod ei hŵyr Trystan a’i hwyres Greta Mair, ac i’r Almaen pan mae amser yn caniatáu.