Cofnod dyddiadur arall gan Ursula – hi sy biau’r llun hyfryd hefyd. Diolch yn fawr i ti Ursula, ac edrychwn ymlaen at barhau’r daith gyda Cwrs Canolradd yn yr Hydref!
Fy nhaith iaith
Dw i wedi gwylio pob IAITH AR DAITH ar S4C bob nos Sul am wyth o’r gloch.
Ruth Jones oedd y gorau hyd yn hyn. Mae hi’n hamddenol ac yn ddoniol ac dyw hi’n ddim yn boeni am wneud camgymeriadau.
Mae hi’n chwerthin ac yn ceisio eto.
Gallwn ddysgu llawer ganddi. Mae llawer o bobl, gan gynnwys fi, eisiau bod yn berffaith cyn iddyn nhw ddechrau siarad yr iaith ond mae’n bwysig iawn “ymarfer” yr iaith a gwneud camgymeriadau.
Dw i’n gwybod bod pawb yn wahanol ac dyn ni’n dysgu’n wahanol hefyd. Unwaith eto, dyn ni’n lwcus iawn yma yng ngorllewin Cymru oherwydd bod pobl yn siarad yn glir ac yn araf. Mae’n pethau a rhaglenni gwahanol arlein ac ar y teledu a’r radio i’n helpu ni a gwneud dysgu’n llawer o hwyl .
Dw i’n ceisio gwneud un peth Cymraeg bob dydd – ysgrifennu ebost neu neges ar WhatsApp neu’r ffôn symudol, darllen llyfr (gan Lois Arnold) neu gylchgrawn, edrych ar S4C, sgwrsio ar Zoom gyda phobl newydd (mae hynny’n frawychus iawn weithiau) am bethau diddorol a doniol. Dw i’n mwynhau sgwrsio ar Zoom yn fwy nag yn y dafarn achos nid oes sŵn cefndir a gallwch glywed yn glir!
Dw i’n ffodus iawn i ddysgu Cymraeg. Mae fy mhartner yn gefnogol iawn – mae hi’n prynu llyfrau i mi ac yn gwylio’r rhagleni Cymraeg gyda fi (gyda isdeitlau wrth gwrs!). Yn 2011 dechreuon ni ddysgu Cymraeg gyda’n gilydd ond roedd rhaid i ni stopio oherwydd ein gwaith caled a dyn ni’n rhy flinedig i ddysgu yr iaith gyda’r nos. Nawr, dw i’n dysgu yn ystod y dydd ac mae’n haws o lawer.
Diolch i’r Gymraeg dw i’n mwynhau darllen ac ysgrifennu eto ar ôl blynyddoedd lawer o beidio a darllen yn Almaeneg na Saesneg. Dw i wedi dod o hyd i fy hoff iaith! Ac mae’n dda i’m hymennydd hefyd, mae’n helpu gyda’r cof! Mae’n fy nghadw’n heini!
Mae pawb yn helpu gyda dysgu yn y siopau, yn y stryd, yn y sinema ac ym mhobman.
Rhaid i ni fod yn ddewr i siarad a phobl a chymryd y cam cyntaf!