Cerddwyr Cylch Teifi – Aber Afon Teifi – 14/12/19

Cerddwyr Cylch Teifi: Dydd Sadwrn 14 Rhagfyr 2019

Aber Afon Teifi

Arweinydd: Howard Williams

Gadael maes parcio’r Jiwbilî rhwng Patch a Gwbert (SN 163 493; Cod Post SA43 1PP) am 10:30.

Y Daith: Taith gylch o ryw ddwy awr a 2.75 milltir. Awn ni wrth ochr yr heol trwy Gwbert a lan y bryn i gyfeiriad y Ferwig, ar hyd y ffordd tuag at y Clwb Golff, dros y cwrs ar lwybr cyhoeddus, lawr i Waungelod a Nant y Ferwig ac yn ôl ar hyd yr heol. Mae palmant neu lwybr ar gael wrth ochr yr heol hon drwy gydol y daith.

Esgyniad: 270 troedfedd; sticlau: dim; ychydig o fwd ar ran fechan o’r daith.

Pwyntiau o ddiddordeb: New Brighton; Plasty Towyn a’r beirdd; Ynys Aberteifi, ei llygod a’i llongddrylliadau; bywyd gwyllt yr aber; Pen yr Ergyd; golygfeydd trawiadol.

Cymdeithasu dros luniaeth wedyn: Gwesty Gwbert (wrth y fynedfa sy’n arwain at faes parcio Gwesty’r Cliff.)


Cerddwyr Cylch Teifi Walkers: Saturday 14 December 2019

Teifi Estuary

Leader: Howard Williams

Leave the Jubilee car park between Patch and Gwbert (SN 163 493; SA43 1PP Postcode) at 10:30.

The Walk: A circular walk of about two hours and 2.75 miles. We’ll go alongside the road through Gwbert and uphill towards Ferwig, along the road towards the Golf Club, over the course on a public footpath, down to Waungelod and Nant y Ferwig and back along the road. There is a pavement or path alongside this road throughout the walk.

Ascent: 270 feet; stiles: none; a little mud on a small part of the walk.

Points of interest: New Brighton; Towyn Mansion and the poets; Cardigan Island, its rats and its wrecks; the estuary wildlife; Pen yr Ergyd; stunning views.

Socialize for refreshments afterwards: Gwbert Hotel (at entrance to the Cliff Hotel car park.)

Merched y Wawr Cylch Teifi

Cinio’r Tair Cymdeithas

Nos Wener 1af mis Mawrth (dydd Gŵyl Dewi) am 7yh ar gyfer 7.30, Gwesty’r Cliff, Gwbert

Adloniant gan ‘Y Pedwarawd Harmoni’ o Aberaeron

Mwy o wybodaeth: Philippa Gibson: pgg@aber.ac.uk neu 01239 654561

Mae’r gangen yn cwrdd ar y nos Fercher gyntaf o bob mis, fel arfer.


Cardigan Merched y Wawr Welsh language women’s group, which offers a warm welcome to learners who’d like to join, if you’re confident enough to avoid turning conversations into English-only!

Cerddwyr Cylch Teifi – Ardal Aberteifi a Patch

Llun: Traeth Patch, o wefan Darganfod Ceredigion

9 Chwefror 2019

Arweinydd: Pob Thomas

Byddwn yn gadael y maes parcio (tâl) ar bwys yr hen archfarchnad ar lan Afon Teifi (SN 175 459; Cod post: SA43 1HR) am 10:30.

Y Daith:  Taith unffordd ddwy awr o ychydig yn llai na 3 milltir ar dir gwastad; byddwn yn dilyn Llwybr yr Arfordir yr holl ffordd i’r maes parcio rhwng Penyrergyd a Gwbert (Jubilee) lle gosodir ceir ymlaen llaw i fynd a’r gyrwyr yn ôl i Aberteifi; dwy filltir ar lwybr troed (a all fod yn fwdlyd mewn mannau) i Nantydderwen a’r filltir olaf ar y palmant wrth ochr y ffordd.  Dim sticlau.

Pwyntiau o ddiddordeb:   Hanes a byd natur yr ardal.

Cymdeithasu dros luniaeth wedyn: Caffi Gorffwysfa’r Pysgotwyr wrth y man cychwyn


Cerddwyr Cylch Teifi Walkers:

February 9, 2019

Cardigan and Patch Area 

Leader: Pob Thomas

We’ll leave the car park (paying) adjacent to the old supermarket on the River Teifi (SN 175 459; Postcode: SA43 1HR) at 10:30.

The walk: A one-way walk of two hours, just under 3 miles on flat ground; we’ll follow the Coastal Path all the way to the car park between Penyrergyd and Gwbert (Jubilee) where some cars will have been left in advance to take the drivers back to Cardigan; two miles on a footpath (which can be muddy in places) to Nantydderwen and the last mile on the pavement by the side of the road. No stiles.

Points of Interest: The history and nature of the area

Socializing over refreshments afterwards: The Fisherman’s Rest Café at the starting point.