Rysáit – Creision Bresych Cyrliog

Llun gan Hamburger Helper ar Flickr

Rysáit gan Sarah, o ddosbarth Uwch 1 dydd Mawrth. Diolch yn fawr iddi am rannu’r rysáit, ac am ddod â chreision i ni eu profi yn y dosbarth!

Cynhwysion
Olew coco – 15ml (llwy fwrdd)
Halen seleri – 2.5 ml (hanner llwy de)
Paprica – 5ml (llwy de)
Bresych cyrliog (cêl) wedi’i olchi a sychu – hanner bag (tua 150g)
Powdr menyn cnau mwnci – 15ml (llwy fwrdd)

Dull

  • Torrwch y bresych cyrliog yn ddarnau bach heb wythiennau
  • Twymwch y dadhydradwr [dehydrator] i 55° C
  • Rhowch y olew coco dros bowlen o ddŵr poeth nes ei fod e wedi toddi
  • Rhowch fresych cyrliog mewn powlen ac ychwanegwch yr olew coco. Cymysgwch yn dda
  • Ychwanegwch y powder menyn cnau mwnci, paprica a’r halen seleri a chymysgwch yn dda eto
  • Rhowch y bresych cyrliog yn y dadhydradwr am tua 3 i 4 awr i sychu
  • Rhowch mewn blwch wedi’i selio a bwyta o fewn wythnos

Diolch eto Sarah, edrychwn ni ymlaen at dy waith cartre nesaf!

Cymrodorion Aberteifi – rhaglen 2019

Festri Bethania, Stryd Wiliam, 7.30yh
£2 am y noson, neu £10 am y tymor.
Bydd croeso cynnes iawn i ddysgwyr yno.
Mae Cymrodorion Aberteifi yn gymdeithas sy’n trefnu Sgwrs ar wahanol bynciau bob mis yn ystod y gaeaf.

Talks in Welsh every month through the winter.

13 Chwefror 2019
Mrs Lona Mason, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
‘Merched y Llyfrgell’


13 Mawrth 2019
Dr Robin Chapman, Aberystwyth
‘I fyny bo’r nod: uchelgais yn niwedd oes Victoria’


10 Ebrill 2019
Noson yng nghymni Meirion a Joanna Jones, yn sôn am eu Gwaith Celf ac Arlunio.

Y Fari Lwyd yn Llangrannog

Llun gan R. fiend [CC BY-SA 3.0], o Gomins Wicipedia

 A hoffech fod yn rhan o draddodiad hynafol y Fari Lwyd?

Ar y 12fed o Ionawr, noson cyn yr Hen Galan, fydd y Fari yn mynd am dro o gwmpas pentref Llangrannog,  ac fe fydd yn dod â iechyd, cyfoeth a ffrwythlondeb i’r pentref.

Ymunwch â ni, naill ai yn un neu’r ddau o’r gweithdai yn y Caban, 10fed a’r 11eg o Ionawr o 7 yr hwyr. Byddwn yn creu pen ceffyl y Fari Lwyd, yn dysgu mwy am y traddodiad ac yn canu rhai o’r caneuon traddodiadol.

Fe fyddwn angen ychydig o bobl i gymryd y brif rhannau (y Fari, Gofalwr, Sarjant a’r Corpral), felly os ydych yn hoff o ganu ac yfed, dewch ynghyd! Byddwn hefyd angen criw o gantorion yn y Pentre Arms a Thafarn y Llong, i dderbyn y Fari pan y bydd yn galw am fynediad.

(Nodwch, nid oes angen fod yn rhugl yn y Gymraeg i gymryd rhan.)


Would you like to be part of the ancient wassailing tradition of the Mari Lwyd?

On the night of 12th January, close to the old New Year (Hen Galan), the Mari will go out, and her antics will bring health, wealth and fertility to the village… 

Join in at either or both of the workshops in the Beach Hut: 10th and 11th January 2019, 7pm onwards. We will be making a Mari Lwyd horse’s head, learning more about the custom and singing some of the traditional songs. 

We will need a few people to take a lead role (Y Fari, Ostler, Merryman, Sarjant, Corporal, Punch and Judy), so if you like to sing and drink, come along! We will also need a crew of singers at the Pentre and at the Ship, to receive the Mari when she demands entry. 

(Note, there is no need to be fluent in Welsh to take part.)