Wedi cael neges gan Nia Llywelyn sy’n rhestri rhai o’r digwyddiadau Cymraeg yn Nyffryn Aeron a Llanbedr Pont Steffan:
4 Tachwedd, 7:30 pm. Bingo Bananas gyda’r comediwr Noel James yn Castle Green, Llanbed, raffl ar y noson. Croeso i bawb
12 Tachwedd 3:30 pm. Sgwrs ar y Sul gyda Geraint Morgan. Bywyd fferyllydd!
Tafarn y Vale, Dyffryn Aeron.
24 Tachwedd 7:30 pm. Noson o Farddoniaeth a bach o ffidil gyda Iestyn Tyne. Yn cefnogi mae’r prifardd Hywel Griffiths.
Tafarn y Vale, Dyffryn Aeron. Croeso i bawb
25 Tachwedd 7:30 pm. Noson gyda Owen Shiers, Cynefin. Neuadd Fictoria, Llanbed. Pris mynediad £5, £3 i blant
10 Rhagfyr 3 pm. Sgwrs ar y Sul gyda teulu Gwarffynnon. Dewch i glywed sut wnaeth Gwarffynnon ddechrau bar llaeth. Tafarn y Vale, Dyffryn Aeron.
12 Ionawr 7:30 pm. Noson Y Fari Lwyd gyda Gwilym Bowen Rhys, Neuadd Fictoria, Llanbed £5 oedolion, £3 plant. Croeso i bawb.