50 Miliwn o Siaradwyr Cymraeg?

(Diolch i Nigel Felin Bedw am rannu’r stori isod gyda ni…)

Weithiau mae hi’n dda byw mewn byd ffuglennol…

Mae hi wedi bod yn wythnos od iawn: ar ôl gwasgu’r bwtwn ar gyfer y dyfodol gorffennais lan yn yr oes Rufeinig. Roedd hi’n lwcus gallwn gofio sut i ddweud ‘gwydraid o win coch os gwelwch yn dda’ yn Lladin.  Cymerodd dim ond eiliadau i fi chwilio am yr arian go iawn yn yr hen archifau. Ar ôl sgwrs od iawn gyda dyn tenau a doniol o’r enw Maximus, es i yn ôl i’r Tardis a gwasgais y bwtwn ‘gorffennol’, roeddwn yn gobeithio bod rhywun wedi chwarae jôc fach ac wedi cyfnewid y botymau.  Roeddwn eisiau cyrraedd fy nosbarth Cymraeg yn Aberteifi rhywbryd ar ôl 23ain Mawrth 2021. Wrth gwrs roeddwn eisiau osgoi’r pla ‘a ddigwyddodd y flwyddyn flaenorol.

Wel, cyrhaeddais tua hanner awr cyn y dosbarth ac es i i Stiwdio 3 am goffi.  Roedd hi’n anhygoel bod pob person ar y stryd ac yn y caffi yn siarad Cymraeg yn rhugl.  Gwelais arwyddion yn hysbysebu dosbarthiadau Saesneg yn y Castell lle ro’n i’n arfer mynd i ddysgu Cymraeg.  Allwn i ddim deall beth oedd yn digwydd. Penderfynais fynd lawer i’r llyfrgell a darllen yr hen bapurau newyddion.  Wel, stori anhygoel oedd hi… Crëwyd brechlyn gan wyddonwyr Cymru a laddodd yr haint ac ar yr un pryd helpodd bob person i siarad Cymraeg fel siaradwr deallus.  

Roedd hi fel cerdded rownd  pencadlys BBC Cymru. Wrth gwrs iaith y De yw e oherwydd bod y labordy wedi’i leoli ar bwys Ffostrasol.

Ar ôl cyrraedd 50 miliwn siaradwr Cymraeg penderfynodd y prif weinidog greu deddf newydd yn datgan taw Cymraeg yw iaith gyntaf y Deyrnas Unedig.

Dal i fyw mewn gobaith – Nigel