Merched Caerdydd / Nos Sadwrn o Hyd

Nos Iau 28/3/19

2 ddrama Gymraeg yn Theatr Mwldan: ‘Merched Caerdydd’ a ‘Nos Sadwrn o Hyd’, 7.30yh.

Bydd sgwrs arbennig ar gyfer dysgwyr cyn dechrau, am 6.45 – 7.15 yn y Cyntedd (Foyer) neu yn yr Oriel lan stâr, am ddim.
Pris Bargen i ddysgwyr (ac i’r Cymry sy’n helpu yn y dosbarthiadau): Os dych chi’n dweud ‘Grŵp Philippa’ pan fyddwh chi’n prynu’ch tocyn yn y Theatr (ddim ar lein), gallwch chi gael tocyn am £8 (yn lle £12 neu £10 i bawb arall). Cofiwch archebu’n gynnar, rhag ofn bydd y lle’n llawn, fel roedd yn y cynhyrchiad diwethaf gan Theatr Genedlaethol Cymru.
Bydd gwasanaeth Sibrwd ar gael i’ch helpu os bydd yn anodd i chi ddeall y dramâu.

Cliciwch yma i archebu tocynnau ar lein.

MERCHED CAERDYDD
Gan Catrin Dafydd
Caerdydd yw cartref Cariad, Liberty ac Awen. Er eu bod nhw’n troedio llwybrau gwahanol iawn i’w gilydd, mae ganddyn nhw fwy yn gyffredin na’u dinas. Dyma dair o ferched ifanc, disglair ac, efallai, annisgwyl y Gymru gyfoes sy’n ceisio gwneud synnwyr o’u bywydau blêr. Merched sy’n ymrafael â’u gorffennol wrth geisio llywio’u dyfodol. Ond a fydd newid yn bosib? Neu a ydi eu ffawd eisoes wedi’i benderfynu?

NOS SADWRN O HYD
Gan Roger Williams
Wedi i Take That chwalu perthynas Lee a Matthew mewn clwb nos yn y brifddinas, mae Lee yn cymryd camau cynnar, melys ar lwybr carwriaeth newydd. Am gyfnod byr mae bywyd yn fêl, ond ar ôl bob nos Sadwrn daw realiti oer bore Sul. Ac fel mae Lee’n darganfod, does dim byd yn para am byth.



Thursday 28/3/19
2 Welsh plays in Theatr Mwldan: ‘Merched Caerdydd’ and ‘Nos Sadwrn o Hyd’, 7.30pm.

There’ll be a special free talk for learners before starting, at 6.45 – 7.15 in the Foyer or at the Gallery upstairs.
Bargain price for learners (and for the Welsh-speakers who help in the classes): If you say ‘Philippa’s Group’ when you buy your ticket in the Theatre (not online), you can get a ticket for £8 (instead of £12 or £10 for everyone else). Remember to book early, in case it gets full, as it was in the last production by Theatr Genedlaethol Cymru.

The translation service ‘Sibrwd‘ will be available to help if it’s difficult for you to understand the plays.

Click here to order tickets online.

MERCHED CAERDYDD 
by Catrin Dafydd
Cardiff is home to Cariad, Liberty and Awen. Whilst they each tread a very different path in life, they have more in common than their city alone. Here are three young, bright, and perhaps unexpected women from contemporary Wales, each trying to make sense of their messy lives. Women trying to come to terms with their past whilst navigating their futures. But will change be possible? Or has their fate already been sealed?

NOS SADWRN O HYD
by Roger Williams 
Following a messy break-up sound-tracked by Take That, Lee goes looking for love and finds it. For a short while life is sweet, but after every Saturday night dawns the harsh reality of Sunday morning and, as Lee discovers, nothing lasts forever