Cerddwyr Cylch Teifi – Aber Afon Teifi – 14/12/19

Cerddwyr Cylch Teifi: Dydd Sadwrn 14 Rhagfyr 2019

Aber Afon Teifi

Arweinydd: Howard Williams

Gadael maes parcio’r Jiwbilî rhwng Patch a Gwbert (SN 163 493; Cod Post SA43 1PP) am 10:30.

Y Daith: Taith gylch o ryw ddwy awr a 2.75 milltir. Awn ni wrth ochr yr heol trwy Gwbert a lan y bryn i gyfeiriad y Ferwig, ar hyd y ffordd tuag at y Clwb Golff, dros y cwrs ar lwybr cyhoeddus, lawr i Waungelod a Nant y Ferwig ac yn ôl ar hyd yr heol. Mae palmant neu lwybr ar gael wrth ochr yr heol hon drwy gydol y daith.

Esgyniad: 270 troedfedd; sticlau: dim; ychydig o fwd ar ran fechan o’r daith.

Pwyntiau o ddiddordeb: New Brighton; Plasty Towyn a’r beirdd; Ynys Aberteifi, ei llygod a’i llongddrylliadau; bywyd gwyllt yr aber; Pen yr Ergyd; golygfeydd trawiadol.

Cymdeithasu dros luniaeth wedyn: Gwesty Gwbert (wrth y fynedfa sy’n arwain at faes parcio Gwesty’r Cliff.)


Cerddwyr Cylch Teifi Walkers: Saturday 14 December 2019

Teifi Estuary

Leader: Howard Williams

Leave the Jubilee car park between Patch and Gwbert (SN 163 493; SA43 1PP Postcode) at 10:30.

The Walk: A circular walk of about two hours and 2.75 miles. We’ll go alongside the road through Gwbert and uphill towards Ferwig, along the road towards the Golf Club, over the course on a public footpath, down to Waungelod and Nant y Ferwig and back along the road. There is a pavement or path alongside this road throughout the walk.

Ascent: 270 feet; stiles: none; a little mud on a small part of the walk.

Points of interest: New Brighton; Towyn Mansion and the poets; Cardigan Island, its rats and its wrecks; the estuary wildlife; Pen yr Ergyd; stunning views.

Socialize for refreshments afterwards: Gwbert Hotel (at entrance to the Cliff Hotel car park.)