Tag: Tan-y-groes

  • Cymdeithas Ceredigion – Noson Trafod Buddugwyr Eisteddfod Wrecsam 

    Screenshot

    7pm nos Sadwrn 6ed mis Medi, yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes

    Buddugwyr Eisteddfod Wrecsam 

    Bydd croeso cynnes i bawb mewn noson i ddathlu buddugwyr cystadlaethau ysgrifennu Eisteddfod Wrecsam. Mae’r noson yn cael ei threfnu gan Gymdeithas Ceredigion. Dyna noson gyntaf eu rhaglen amrywiol a difyr. Mae’r noson i drafod gwaith sy wedi ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn boblogaidd bob blwyddyn, felly dewch yn gynnar i fachu’ch sedd, ac aros yn hwyr i gymdeithasu dros banad! 

    Bydd y noson yn dechrau am 7pm nos Sadwrn 6ed mis Medi, yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes, gyda’r Prifardd Tudur Dylan yn cadeirio. Bydd rhai o’r llenorion buddugol yn bresennol i gyfrannu at y trafod, gan gynnwys Owain Rhys, a enillodd y Goron. 

    Pris y tocyn (i’w brynu wrth y drws) yw £10, sy’n cynnwys aelodaeth am y flwyddyn er mwyn mynychu’r 8 cyfarfod rhwng mis Medi a mis Ebrill

    Dyma gyfle i ddod i grŵp sy’n gwneud popeth yn Gymraeg. ac mae’n rhoi croeso arbennig i bobl sy’n dysgu Cymraeg. Mae llawer o siaradwyr newydd, sef pobl sy wedi dysgu Cymraeg yn ail iaith, yn y grŵp. 

    Yn ystod y flwyddyn, bydd digwyddiadau llenyddol, cerddorol a sgyrsiau am hanes – yn ogystal â bwyd da mewn sawl un o’r cyfarfodydd. Maen nhw fel arfer yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes ar nosweithiau Gwener, ond ddim bob tro. Eleni, bydd sesiwn ‘Sut i ddofi corryn… Holi’r bardd a’r llenor Mari George’ 3ydd mis Hydref, a’r hanesydd poblogaidd Hedd Ladd-Lewis yn siarad am Ryfel y Degwm 7fed mis Tachwedd. Cynhelir ein Cinio Nadolig gyda rhai o ddosbarth telyn Meinir Heulyn yn rhoi’r adloniant. 

    Ar ddechrau’r flwyddyn newydd, gwasanaeth Plygain yng Nghapel Blaenannerch yw noson arall i edrych ymlaen ati, gyda lluniaeth ysgafn i ddilyn. Ym mis Chwefror, bydd noson o glywed straeon am bethau dwys a doniol yn hanes Cymdeithas Ceredigion, ac wedyn i ddathlu Gŵyl Dewi, cynhelir noson ‘Cawl a Cherddi’, gydag Eisteddfod y Gymdeithas, sy wastad yn noson hwyliog iawn. Mae’r cystadlaethau amrywiol (barddoniaeth a rhyddiaith, dwys a digri) yn agored i bawb ac mae cystadleuaeth arbennig i ddysgwyr. Castell Aberteifi yw lleoliad cyfarfod olaf y flwyddyn ym mis Ebrill, gyda sgwrs gan Non Davies am gysylltiad y Castell â’r Eisteddfod Genedlaethol, a chinio i ddilyn ym Mwyty 1176.

    Mae croeso cynnes i bawb bob tro. Am ragor o fanylion cysylltwch â dbroberts@btinternet.com neu philippa.gibson@gmail.com  07787 197630

  • Cymdeithas Ceredigion – Rhaglen 2024 – 2025

    Y cyfarfodydd i’w cynnal yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes oni nodir yn wahanol. Sylwch fod y rhan fwyaf ohonynt bellach ar nos Wener.

    Am y newyddion diweddaraf o’r Gymdeithas, gwiriwch eu tudalen Facebook.

    Nos Sadwrn, 7 Medi 2024 am 7:00
    Trafod Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yng nghwmni’r prif enillwyr
    Cadeirydd: Y Prifardd Tudur Dylan

    Nos Wener, 4 Hydref 2024 am 7:30
    Jo Heyde – Cân y Croesi (Bardd y Mis Radio Cymru, Gorffennaf 2024)

    Nos Wener, 1 Tachwedd am 7:30
    Carwyn Graves – Tir: ein tirwedd diwylliannol

    Nos Wener, 7 Rhagfyr am 7:00
    Cinio Nadolig
    Gydag adloniant

    2025

    Nos Sul, 12 Ionawr 2025 am 7.00
    Gwasanaeth y Plygain, Capel Blaenannerch

    Nos Wener, 7 Chwefror am 7:30
    Emyr Llywelyn, Carol Davies ac Owenna Davies: Noson i ddathlu hiwmor Emyr Pen-rhiw a’r diweddar Dai Rees Davies

    Nos Wener, 7 Mawrth am 7:00
    Cawl ac Eisteddfod Gŵyl Dewi
    Beirniad: y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan

    Nos Wener, 4 Ebrill am 7:30
    Alis Hawkins – Pechodau’r Gorffennol: ffuglen drosedd hanesyddol

    Nos Wener, 2 Mai am 7:00
    Cyfarfod Blynyddol a Swper y Gymdeithas

    Mis Mehefin
    Taith y Gymdeithas (y manylion i ddilyn)