Amgueddfa Wlân Genedlaethol

Yr wythnos diwetha, buon ni’n trafod “Sefydliadau Cymru” yn y dosbarth Canolradd yn Aberteifi. Dyma enghraifft o waith cartref gan un o’r stiwdents , Sheila M, sy’n dod o ardal Huddersfield yn wreiddiol. Diolch yn fawr iddi hi am roi caniatâd i fi rannu’r darn yma.

Mae hi rhan o’r Amgueddfa Cymru. Wedi’i lansio fel Amgueddfa Ddiwydiant Gwlân Cymru ym 1976,  ailagorodd ym mis Mawrth 2004 fel yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol.  

Ar un adeg, roedd pentref pert Dre-fach Felindre ynghanol harddwch Dyffryn Teifi yn ganolfan lewyrchus i’r diwydiant gwlân ac yn cael ei alw’n ‘Huddersfield Cymru’.

Yn yr Amgueddfa  Wlân Genedlaethol, gallwch chi ddysgu am holl brosesau a thermau y diwydiant gwlân, ac edrych ar yr offer a’r peiriannau oedd yn hanfodol ar gyfer y diwydiant.

Adeiladwyd Cambrian Mills ym 1902 ac  ailadeiladwyd yn 1919 ar ôl tân. Defnyddiwyd peiriannau fel peiriant cribo, yr Olwyn Fawr, Olwyn Ynys Môn,  mulod nyddu, y weindiwr Pirn a gwŷdd Dobcross (ces i fy magu yn agos at Dobcross) gan y felin.

Yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills gwnaed crysau a siolau, blancedi a charthenni, a sanau gwlân i ddynion a merched, a’u gwerthwyd i’r ardaloedd cyfagos – a ledled y byd.  Cynhyrchwyd gwlanen ar gyfer gwisgoedd milwrol ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf.

Daethpwyd â’r  gwlân o’r ardal leol.  Cneifio oedd uchafbwynt cymdeithasol y flwyddyn ar ffermydd Cymru.  Aethpwyd â’r gwlân trwy brosesau yn gynnwys didoli, sgwrio (tan y 1930au y dull mwyaf cyffredin oedd trochi gwlân crai mewn toddiant yn cynnwys un rhan o wrin dynol ac un rhan o ddŵr), lliwio, cribo, nyddu, dirwyn, gwehyddu a gorffenu.

Gwneir nwyddau gwlân ym Melin Teifi yn Nrefach Felindre o hyd a’u gwerthir yn siop yr Amgueddfa ac ar lein.