Cerddwyr Cylch Teifi – Llambedr Pont Steffan

Cerddwyr Cylch Teifi: 13 Ebrill 2019 – Llanbedr Pont Steffan

Arweinydd
: Gillian Jones

Byddwn yn gadael maes parcio Clwb Rygbi, Heol y Gogledd, Llambed (SN578 486; Cod post: SA48 7HZ) am 10:30.*

Y Daith: Taith gylch ychydig tua thair milltir ar dir gwastad gan orffen erbyn 1:00 fan bellaf. Gadael y maes parcio ar fin y dre a mynd drwy gampws y Brifysgol i’r llwybr at lannau Afon Teifi, cyn troi i’r gogledd ar draws caeau i gyrraedd y briffordd (palmant) a strydoedd y dre sy’n arwain yn ôl i’r man cychwyn. Mae’r rhan fwyaf o’r daith ar lwybrau troed cadarn ond efallai bydd ychydig o fwd ar ôl glaw wrth groesi’r caeau.

Sticlau: dim.

Pwyntiau o ddiddordeb: Hanes (3 plasty, 3 afon, 3 addoldy) a byd natur yr ardal.

Cyfle i gymdeithasu dros luniaeth wedyn: Caffi’r Sosban Fach (sawl opsiwn arall).

Rhannwch geir, os gwelwch yn dda, i arbed yr amgylchedd, yn enwedig os ydych yn dod o bell; os yw’n gyfleus, trefnwch gyda ffrindiau i fynd i faes parcio’r Farchnad Wartheg yng Nghastellnewydd Emlyn erbyn 9:30 i wneud hynny. Ni fydd yr arweinwyr yn trefnu hyn.

Cofiwch mai chi sy’n gyfrifol am eich diogelwch eich hunain ac felly darllenwch fanylion y daith i sicrhau eich bod yn gallu ei chyflawni heb oedi’n ormodol, a dewch â dillad addas. (Mae rhagor o nodiadau am ddiogelwch yn y Rhaglen bapur ac yma ar wefan Pethe Cylch Teifi. Gofynnwch os nad oes copi gyda chi, neu edrychwch ar y blog.)

Cofiwch hefyd fod dysgwyr yn dod i gerdded gyda’r grŵp er mwyn cael cyfle i sgwrsio â Chymry lleol. Da chi, agorwch sgwrs â nhw pan allwch. Diolch yn fawr.



Cerddwyr Cylch Teifi Walkers: 13 April 2019 – Lampeter

Leader: Gillian Jones

We’ll leave the Rugby Club car park, North Road, Lampeter (SN578 486; Postcode: SA48 7HZ) at 10: 30.

The Walk: A circular walk of about three miles on level ground, finishing by 1:00 at the latest. Leaving the car park on the edge of the town and going through the University campus to the path leading to the banks of the River Teifi, before turning north across fields to reach the main road (pavement) and the streets of the town leading back to the starting point. Most of the walk is on firm footpaths but there may be some mud after rain when crossing the fields.

Stiles: none.

Points of interest: History (3 mansions, 3 rivers, 3 places of worship) and the natural history of the area.
A chance to socialize over refreshments: Sosban Fach Café (several other options).

Please share cars to save the environment, especially if you come from afar; if convenient, you could arrange with friends to go to the Cattle Market car park in Newcastle Emlyn by 9:30 to do this. This won’t be organized by the leaders.

Remember that you are responsible for your own safety, and so read the details of the walk to ensure that you are able to complete it without too much delay, and bring suitable clothing. (There are more notes about safety in the paper Programme, and on the Pethe Cylch Teifi website.) Please ask if you don’t have a copy.

Remember too that Welsh will be the language of the walk, so if you are beginning to learn you may not be able to follow much of what is said but it is an ideal opportunity to use all the Welsh you have learned and you can ask others to give you the gist – but please try to avoid using ‘English-only’ in any conversation.