Cwmni Drama Llandudoch – Dwy Gomedi Fer

2 gomedi fer cwmni drama Llandudoch

Mae Cwmni Drama Llandudoch yn ôl unwaith eto eleni. Yn eu degfed flynedd ar hugain o berfformio, mae’r actorion wedi dod at ei gilydd unwaith eto i gyflwyno dwy gomedi fer. Yr un arlwy ag arfer, felly dewch i’r theatr i fwynhau noson o chwerthin a mwynhau yng nghwmni’r criw profiadol – ac edrychwch mas am wyneb newydd!

Tocynnau: £8 (£7) ar gael arlein fan hyn, dros y ffôn 01239 621200, neu o’r theatr.

Perfformiadau eleni yw:

  • Penrhiwllan, Mawrth 15ed
  • Theatr Mwldan, Mawrth 29ain
  • Cilgerran, Ebrill 5ed
  • Sarnau, Ebrill 12ed

Pob un yn dechrau am 7.30 ac eithrio Cilgerran am 7.00