Cerddwyr

Dof mewn niwl, dof mewn heulwen,
A dof drwy’r glaw yn llawen –
Awn i gyd, pob un â gwên.

Terwyn Tomos

(Llun o’r Cerddwyr yn Llandudoch, Hydref 2021, gan Nick Smart)

Cerddwyr Cylch Teifi

Cyfle i Gymry Cymraeg a dysgwyr fwynhau cwmni’i gilydd wrth gerdded.

Teithiau cerdded ar yr ail ddydd Sadwrn o bob mis rhwng Hydref a Mehefin. Teithiau o ryw ddwy awr fel arfer, gan adael y man cychwyn am 10.30yb bob tro – dewch erbyn 10.20.

Trefnyddion:

Terwyn a Marged Tomos, 01239 612928 mttomos@outlook.com

Philippa Gibson, 07787 197630 philippa.gibson@gmail.com

Howard Williams, Siân Bowen a Malcolm Watts

  • Awn i gerdded bob tro, glaw neu beidio, ond ffoniwch os hoffech fwy o fanylion. 
  • Rhannwch geir i gyrraedd, os gallwch. 

DIOGELWCH

Cofiwch mai chi sy’n gyfrifol am eich diogelwch eich hunain ac felly:

  • darllenwch fanylion y daith i sicrhau eich bod yn ddigon abl i’w chyflawni heb oedi’n ormodol;
  • dewch â dillad addas o ystyried adeg y flwyddyn a rhagolygon y tywydd, yn enwedig esgidiau cymwys i dir gwlyb ac anwastad;
  • cadwch gysylltiad â gweddill y criw trwy aros o flaen y trefnydd a fydd wrth gefn y rhes o gerddwyr;
  • hysbyswch drefnydd os gadewch chi’r daith yn gynnar;
  • cadwch gŵn ar dennyn;
  • cymerwch ofal arbennig wrth groesi ffyrdd ac wrth gerdded:
    • ar hyd ffyrdd heb balmant;
    • ar lethrau serth;
    • ar lwybrau lle mae disgyniad ar un ochr fel yn aml ar lwybrau’r arfordir

DYSGWYR

Cofiwch fod dysgwyr yn dod i gerdded gyda’r grŵp er mwyn cael cyfle i sgwrsio â Chymry lleol. Da chi, agorwch sgwrs â nhw pan allwch.


RHAGLEN 2025 – 26

Am ragor o fanylion am y rhaglen gyfredol, cliciwch yma i weld Cylchlythyr y Cerddwyr, ac i danysgrifio i gael manylion y teithiau bob mis, cysylltwch â Philippa Gibson.

  • Hydref 18 – Ceinewydd – Siân Bowen 
  • Tachwedd 8 – Ffynonnau – Howard Williams
  • Rhagfyr 13 – Coed Pentre Ifan ac Allt Ty Canol – Hedd Ladd Lewis
  • Ionawr 10 – Tref Aberteifi ac Eisteddfod 1976 – Terwyn Tomos
  • Chwefror 14 – Trewyddel – Dafydd Davies
  • Mawrth 14 – ardal Llangrannog – Gareth Wyn Jones
  • Ebrill 11 – ardal Wdig – Maggie McMullen
  • Mai 9 – Aberteifi a’r arfordir – Hefin Harris 
  • Mehefin 13 – y Preselau – Hefin Wyn

CERDDWYR ERAILL – Croeso cynnes i bawb:

Cymdeithas Edward Llwyd: teithiau hirach (pob ardal). cymdeithasedwardllwyd.cymru neu’r Ysgrifennydd Aelodaeth 02920 752382. 


Cerddwyr Cylch Teifi Walkers

An opportunity for Welsh speakers and learners to enjoy each other’s company while walking.

Walks on the second Saturday of every month, between October and June. Walks of about two hours usually, leaving the starting place at 10.30 every time – arrive by 10.20.

Organizers:

Terwyn & Marged Tomos, 01239 612928 mttomos@outlook.com

Philippa Gibson, 07787 197630 philippa.gibson@gmail.com

Howard Williams, Siân Bowen & Malcolm Watts

  • We will go on the walk every time, rain or shine, but phone if you would like more details.
  • Share cars to reach the starting point, if you can.

SAFETY

Remember that you are responsible for your own safety, and so: 

  • read the details of the walk to ensure that you are able to complete it without too much delay;
  • bring suitable clothing taking into consideration the time of year and weather forecast, especially suitable boots for wet and uneven ground;
  • keep contact with the rest of the group by keeping in front of the organizer who is at the back of the line of walkers;
  • let an organizer know if you leave the walk early;
  • keep dogs on a lead;
  • take special care when crossing roads and when walking:
    • along roads without a pavement;
    • on steep slopes;
    • on paths where there is a drop on one side as often occurs on coastal paths.

LEARNING WELSH?

Welsh will be the language of the walk, so if you are beginning to learn you may not be able to follow much of what is said but it is an ideal opportunity to use all the Welsh you have learned and you can ask others to give you the gist – but please try to avoid using ‘English-only’ in any conversation.

Programme 2025 – 26

For more details on the current program, click here to view the group’s newsletter, or contact Philippa Gibson to be sent details of each month’s walks.

  • October 18 – New Quay – Siân Bowen 
  • November 8 – Ffynonnau – Howard Williams
  • December 13 – Pentre Ifan Woods and Ty Canol Woods – Hedd Ladd Lewis
  • January 10 – Cardigan town and the 1976 Eisteddfod – Terwyn Tomos
  • February 14 – Moylgrove – Dafydd Davies
  • March 14 – Llangrannog area – Gareth Wyn Jones
  • April 11 – Goodwick area – Maggie McMullen
  • May 9 – Cardigan and the coast – Hefin Harris 
  • June 13 – the Preseli Hills – Hefin Wyn

OTHER WELSH WALKING GROUPS – Welcome to all

Cymdeithas Edward Llwyd: longer walks (all areas). cymdeithasedwardllwyd.cymru or the Membership Secretary 02920 752382.