Category: Darlithoedd a Chymdeithasau

  • Cymdeithas Cymrodorion Aberteifi – Rhaglen 2025–2026

    8 Hydref 2025
    Meleri Wyn James, Waunfawr, Aberystwyth.
    Testun: “Fy nychymyg a fi”.

    12 Tachwedd 2025
    John Daniels, Caerfyrddin.
    Testun: “Hynt a Helynt Heddwas”.

    14 Ionawr 2026
    Dafydd Morgan, Tregaron.
    Testun: “Ysbryd y Nos – Y Sêr a Fi”.

    11 Chwefror 2026
    Rhodri Llwyd Morgan, Llandre.
    Testun: “Cyfrinachau Casgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol”.

    Dathlu Gŵyl Ddewi 2026

    27 Chwefror 2026
    Cinio’r Cymdeithasau Cymraeg yn y Clwb Golff, Gwbert tan ofal Y Cymrodorion.
    (Nos Wener) 6.30 ar gyfer 7.00 o’r gloch.
    Adloniant gan:- Deulu Llwyneithin.

    1 Mawrth 2026
    Oedfa’r Cymdeithasau Cymraeg yng ngofal Cylch Cinio Teifi yng Nghapel Mair,
    (Nos Sul) Aberteifi am 6.00 y.h.
    Anerchiad gan Y Parchedig Gareth Ioan, Pentre’r Bryn, Llandysul.

    11 Mawrth 2026
    Judith Morris, Penrhyncoch, Aberystwyth.
    Testun: “Ar drywydd rhai o Ffynhonnau Sanctaidd Ceredigion a thu hwnt”.

    8 Ebrill 2026
    Elain Roberts, Pentre’r Bryn, Llandysul a Llundain.
    Testun: “Bywyd person ifanc yng nghefn gwlad Cymru o’i gymharu â
    mewn dinas yn Lloegr”.

  • Cymdeithas Ddiwylliadol, Maen-y-Groes

    Rhaglen Hydref/Gaeaf – 2025-26
    7pm Festri Capel Maen-y-Groes
    Mynediad £4 ~ Croeso i Bawb
    Bydd pob sgwrs yn ddwyieithog.


    2 Hydref 2025
    Cyfrinachau dadgodwraig (decoder) ym Mharc Bletchley. Lona Brierly yn rhannu gwybodaeth am brofiad ei mam fel datgodwr ym Mharc Bletchley.

    6 Tachwedd 2025
    Hen Greiriau Cymreig yn cynnwys llwyau Caru, gyda Jonathan ac Yvonne Holder, Welsh Vernacular Antiques

    4 Rhagfyr 2025
    Seren y sgrin fawr – Dolffin Town. Dafydd Lewis “Bywyd Gwyllt y Tir a’r Môr”, a’r heli yn byrlymu drwy ei weithiennau

    15 Ionawr 2026
    Caneuon Gwerin Coll Ceredigion. Noson yng nghwmni Owen Shiers.

    5 Chwefror 2026
    Hanes yr Artist a’r seren deledu a radio enwog a lleol Meinir Mathias. Gwelir gwaith Meinir ar fur oriel Llyfyrgell Cenedlaethol Cymru.


    Maen-y-Groes Cultural Society
    Autumn/Winter Programme – 2025-26
    7pm Maen-y-Groes Chapel Vestry
    £4 Entry ~ All welcome
    All talks will be bilingual.

    2 October 2025
    The Secret life of a Decoder at Bletchley Park. Lona Brierly sharing information about her mother’s experience as a decoder at Bletchley Park.

    6 November 2025
    Welsh Antiques including Love Spoons, with Jonathan & Yvonne Holder, Welsh Vernacular Antiques.

    4 December
    Star of the big screen – Dolphin Town – Dafydd Lewis “Wildlife of Land and Sea”. Dafydd Lewis’ love for wildlife of land and sea.

    15 January 2026
    Lost Folk Songs of Ceredigion. An evening with Owen Shiers.

    5 February 2026
    The renowned & upcoming local artist, and star of radio and television, Meinir Mathias, whose work now hangs in the gallery of the National Library of Wales.

  • Cymdeithas Maes a Môr, Ffostrasol – rhaglen 2025 – 2026

    Maes a Môr – Rhaglen y Flwyddyn

    Cyfarfodydd i’w cynnal yn Nhafarn Ffostrasol am 7:30 yh ar nos Lun, oni nodir yn wahanol

    15 Medi 2025
    Richard Wyn Jones – Pam sefydlu Plaid Cymru?


    Nos Sadwrn, 11 Hydref 2025 – yn Neuadd Talgarreg
    Cyngerdd Delwyn Sion – Codi arian i Gaza (dyddiad ychwanegol).


    20 Hydref 2025
    Jon Gower – Hanes Adar ym Mhrydain dros yr 50 mlynedd diwethaf.

    17 Tachwedd 2025
    Helgard Krause – O’r Almaen i Gymru.


    15 Rhagfyr 2025
    Rhiannon Ifans – Hanes y Plygain yng Ngheredigion.


    19 lonawr 2026
    Peter Lord – Celf a Chymru: Adeiladu Traddodiad.


    Nos Sadwrn 24 lonawr 2026 – Neuadd Coed-y-Bryn
    Cyngerdd gan Mari Mathias a’ Band – Dathlu Santes Dwynwen (dyddiad ychwanegol).

    16 Chwefror 2026
    Euros Lewis – 85 mlynedd ers y troi allan o Fynydd Epynt.


    16 Mawrth 2026
    Catrin Stevens – Y Dywysoges Gwenllian.

    20 Ebrill 2026
    Cynfael Lake – Baled ac Almanac: Llenyddiaeth ar gyfer y werin yn y ddeunawfed ganrif.


    18 Mai 2026
    Ffion Eluned Owen – Hanes pêl droed merched Cymru.

  • Cymdeithas Ceredigion – Noson Trafod Buddugwyr Eisteddfod Wrecsam 

    Screenshot

    7pm nos Sadwrn 6ed mis Medi, yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes

    Buddugwyr Eisteddfod Wrecsam 

    Bydd croeso cynnes i bawb mewn noson i ddathlu buddugwyr cystadlaethau ysgrifennu Eisteddfod Wrecsam. Mae’r noson yn cael ei threfnu gan Gymdeithas Ceredigion. Dyna noson gyntaf eu rhaglen amrywiol a difyr. Mae’r noson i drafod gwaith sy wedi ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn boblogaidd bob blwyddyn, felly dewch yn gynnar i fachu’ch sedd, ac aros yn hwyr i gymdeithasu dros banad! 

    Bydd y noson yn dechrau am 7pm nos Sadwrn 6ed mis Medi, yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes, gyda’r Prifardd Tudur Dylan yn cadeirio. Bydd rhai o’r llenorion buddugol yn bresennol i gyfrannu at y trafod, gan gynnwys Owain Rhys, a enillodd y Goron. 

    Pris y tocyn (i’w brynu wrth y drws) yw £10, sy’n cynnwys aelodaeth am y flwyddyn er mwyn mynychu’r 8 cyfarfod rhwng mis Medi a mis Ebrill

    Dyma gyfle i ddod i grŵp sy’n gwneud popeth yn Gymraeg. ac mae’n rhoi croeso arbennig i bobl sy’n dysgu Cymraeg. Mae llawer o siaradwyr newydd, sef pobl sy wedi dysgu Cymraeg yn ail iaith, yn y grŵp. 

    Yn ystod y flwyddyn, bydd digwyddiadau llenyddol, cerddorol a sgyrsiau am hanes – yn ogystal â bwyd da mewn sawl un o’r cyfarfodydd. Maen nhw fel arfer yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes ar nosweithiau Gwener, ond ddim bob tro. Eleni, bydd sesiwn ‘Sut i ddofi corryn… Holi’r bardd a’r llenor Mari George’ 3ydd mis Hydref, a’r hanesydd poblogaidd Hedd Ladd-Lewis yn siarad am Ryfel y Degwm 7fed mis Tachwedd. Cynhelir ein Cinio Nadolig gyda rhai o ddosbarth telyn Meinir Heulyn yn rhoi’r adloniant. 

    Ar ddechrau’r flwyddyn newydd, gwasanaeth Plygain yng Nghapel Blaenannerch yw noson arall i edrych ymlaen ati, gyda lluniaeth ysgafn i ddilyn. Ym mis Chwefror, bydd noson o glywed straeon am bethau dwys a doniol yn hanes Cymdeithas Ceredigion, ac wedyn i ddathlu Gŵyl Dewi, cynhelir noson ‘Cawl a Cherddi’, gydag Eisteddfod y Gymdeithas, sy wastad yn noson hwyliog iawn. Mae’r cystadlaethau amrywiol (barddoniaeth a rhyddiaith, dwys a digri) yn agored i bawb ac mae cystadleuaeth arbennig i ddysgwyr. Castell Aberteifi yw lleoliad cyfarfod olaf y flwyddyn ym mis Ebrill, gyda sgwrs gan Non Davies am gysylltiad y Castell â’r Eisteddfod Genedlaethol, a chinio i ddilyn ym Mwyty 1176.

    Mae croeso cynnes i bawb bob tro. Am ragor o fanylion cysylltwch â dbroberts@btinternet.com neu philippa.gibson@gmail.com  07787 197630

  • Cymdeithas Ceredigion – Rhaglen 2025 – 2026

    Y cyfarfodydd i’w cynnal yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes oni nodir yn wahanol.  Sylwch fod y rhan fwyaf ohonynt bellach ar nos Wener.

    Nos Sadwrn, 6 Medi 2025 am 7:00
    Trafod Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yng nghwmni sawl enillydd
    Cadeirydd: Y Prifardd Tudur Dylan
    Rhagor o fanylion fan hyn

    3 Hydref 2025 am 7:30
    Mari George – Sut i ddofi corryn… holi’r bardd a’r llenor

    7 Tachwedd 2025 am 7:30
    Hedd Ladd Lewis – Rhyfel y Degwm

    5 Rhagfyr 2025 am 7:00
    Cinio Nadolig
    gyda Meinir Heulyn a’i dosbarth telyn

    Nos Sul, 11 Ionawr 2026 am 7.00
    Gwasanaeth y Plygain, Capel Blaenannerch

    6 Chwefror 2026 am 7:30
    Y difri a’r digri: atgofion am y Gymdeithas gan aelodau a chyfeillion

    6 Mawrth 2026 am 7:00
    Cawl ac Eisteddfod Gŵyl Dewi – gweler isod am fanylion
    Beirniad: Emyr Davies 

    10 Ebrill 2026 am 11:00 bore Gwener 
    Ymweliad â Chastell Aberteifi:
    11am Ystafell y Tŵr: Sgwrs gan Non Davies: Castell Aberteifi a’r Eisteddfod
    tua 12:15 Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas
    tua 1pm Bwyty 1176: cinio

    YR EISTEDDFOD – TESTUNAU

    Beirniad: Emyr Davies

    Mae’r holl gystadlaethau yn agored i bawb

    Gwobr Goffa Pat Neill: Cerdd gaeth neu rydd (heb fod dros 40 o linellau): i unrhyw dref neu bentref yng Ngheredigion

    Gwobr: Cadair Fechan a £50

    1. Englyn: i Athro neu Athrawes
    2. Triban: beddargraff cymeriad cartŵn 
    3. Cywydd: Plygain (hyd at 18 o linellau)
    4. Parodi o unrhyw bennill telyn enwog
    5. Limrig yn cynnwys y llinell ‘Peth anodd yw gweithio o gartre’ neu ‘Mae gweithio o gartre’n beth anodd’
    6. Llythyr doniol at unrhyw Aelod Seneddol / Aelod o Senedd Cymru
    7. Erthygl i bapur bro: portread o unrhyw Nyrs / Postmon / Ffermwr lleol
    8. Cystadleuaeth i ddysgwyr (unrhyw lefel): cerdd neu ddarn o ryddiaith i unrhyw anifail
    9. Cystadleuaeth i rai dan 25 oed: cerdd neu ddarn o ryddiaith ar y testun ‘Protest’

    Gwobrau ar gyfer gystadlaethau 1-8: £20; Rhif 9: Tlws a £20

    Gwobrau eraill i’w cadw am flwyddyn:

    Cadair Her am y darn barddoniaeth gorau (ac eithrio cystadleuaeth Pat Neill)

    Cwpan Her Ben Owens am y darn rhyddiaith gorau.

    Rhaid i bob ymgais unigol fod o dan ffugenw, gydag enw’r ymgeisydd ar wahân.  Derbynnir cynigion drwy’r post arferol neu drwy e-bost. Y cyfansoddiadau i law Gwenda Evans, Awelfor, Sarnau, Llandysul, Ceredigion SA44 6QS  01239 654552 gwendaevans257@btinternet.com erbyn y dyddiad cau, dydd Llun 16 Chwefror 2026.

  • Cymdeithas Cymrodorion Llandysul

    RHAGLEN TYMOR 2024-2025

    Nos Fercher, Hydref 16eg 2024
    Neuadd yr Eglwys, Llandysul 7.30yh
    Y Prifardd Dr Aneirin Karadog
    Testun: “Bachgen Bach o Bonty”
    Llywydd: Mr Philip Ainsworth

    Nos Fercher, Tachwedd 20fed 2024
    Neuadd yr Eglwys, Llandysul 7.30yh
    Mr Gerwyn Morgan
    Testun: “Boneddigion Godre Dyffryn Teifi”
    Llywydd: Mrs Anne Thorne

    Nos Fercher, Ionawr 15fed 2025
    Neuadd yr Eglwys, Llandysul 7.30yh
    Yr Athro David Thorne
    Testun: “Eglwys Waunifor”
    Llywydd: Canon Aled Williams

    Nos Fercher, Chwefror 19eg 2025
    Neuadd yr Eglwys, Llandysul 7.30yh
    Noson yng nghwmni yr arlunwyr
    Meirion a Joanna Jones
    Llywydd: Mr David Lewis

    Mawrth 9fed 2025 – Sul Cenedlaethol
    Eglwys Sant Tysul, Llandysul, 10yb
    Gwasanaeth o dan ofal Canon Gareth Reid

  • Cymdeithas y Gaeaf – Rhaglen 2024 – 2025

    BOREAU COFFI: 10.30-12.30 yn Festri Capel Blaenannerch


    13 Medi 2024
    11 Hydref 2024
    8 Tachwedd 2024
    13 Rhagfyr 2024
    10 lonawr 2025
    14 Chwefror 2025
    14 Mawrth 2025

    SIARADWYR : 2.00pm yn Festri Capel Blaenannerch


    7 Hydref 2024
    Mrs Aeres James
    Doliau Ŷd

    4 Tachwedd 2024
    Mr Emyr Phillips
    Chwareli Cilgerran

    9 Rhagfyr 2024
    Mrs Sharon Harries
    Caligraffi – sylwer, yr ail ddydd Llun

    6 lonawr 2025
    Mr Huw Morgan
    Pennaeth yr Adran Arlwyo, Coleg Ceredigion


    3 Chwefror 2025
    Mr Hedd Ladd-Lewis
    Brwydr y Degwm

    3 Mawrth 2025
    Dathlu Gwyl Ddewi

  • Cymdeithas Ceredigion – Rhaglen 2024 – 2025

    Y cyfarfodydd i’w cynnal yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes oni nodir yn wahanol. Sylwch fod y rhan fwyaf ohonynt bellach ar nos Wener.

    Am y newyddion diweddaraf o’r Gymdeithas, gwiriwch eu tudalen Facebook.

    Nos Sadwrn, 7 Medi 2024 am 7:00
    Trafod Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yng nghwmni’r prif enillwyr
    Cadeirydd: Y Prifardd Tudur Dylan

    Nos Wener, 4 Hydref 2024 am 7:30
    Jo Heyde – Cân y Croesi (Bardd y Mis Radio Cymru, Gorffennaf 2024)

    Nos Wener, 1 Tachwedd am 7:30
    Carwyn Graves – Tir: ein tirwedd diwylliannol

    Nos Wener, 7 Rhagfyr am 7:00
    Cinio Nadolig
    Gydag adloniant

    2025

    Nos Sul, 12 Ionawr 2025 am 7.00
    Gwasanaeth y Plygain, Capel Blaenannerch

    Nos Wener, 7 Chwefror am 7:30
    Emyr Llywelyn, Carol Davies ac Owenna Davies: Noson i ddathlu hiwmor Emyr Pen-rhiw a’r diweddar Dai Rees Davies

    Nos Wener, 7 Mawrth am 7:00
    Cawl ac Eisteddfod Gŵyl Dewi
    Beirniad: y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan

    Nos Wener, 4 Ebrill am 7:30
    Alis Hawkins – Pechodau’r Gorffennol: ffuglen drosedd hanesyddol

    Nos Wener, 2 Mai am 7:00
    Cyfarfod Blynyddol a Swper y Gymdeithas

    Mis Mehefin
    Taith y Gymdeithas (y manylion i ddilyn)

  • Cymdeithas Maes a Môr, Ffostrasol

    Maes a Môr – Rhaglen y Flwyddyn

    Cyfarfodydd i’w cynnal yn Nhafarn Ffostrasol am 7:30 yh ar nos Lun, oni nodir yn wahanol

    16 Medi 2024
    Cennydd Jones
    “Meillion a’u gwerth i ffermwyr Cymru.”

    21 Hydref 2024
    Huw Williams
    “Cofio (ac anghofio) cawr o Gymro: Richard Price, apostol rhyddid.”

    18 Tachwedd 2024
    Euros Lewis
    “Straeon celwydd golau.”

    16 Rhagfyr 2024
    Sam Robinson
    Y bardd a’r bugail o Fachylleth – a’r gwneuthurwr seidr.

    20 lonawr 2025
    Cerys Lloyd, Prifysgol Aberystwyth
    “Tywydd Eithafol.”

    Nos Sadwrn, 25 lonawr 2025 yn Neuadd Coed y Bryn
    Cyngerdd gan ‘Pedair’ – Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Siân James
    Dathlu Santes Dwynwen (dyddiad ychwanegol).

    17 Chwefror 2025
    Marian Delyth
    “Hanner can mlynedd o dynnu lluniau.”

    17 Mawrth 2025
    Emyr Llywelyn, Carol Davies, Owenna Davies
    ‘Y Maes a’r Môr’ Dathlu Gwyl Ddewi mewn can a cherdd.

    28 Ebrill 2025 (dyddiad newydd)
    Beti George
    Dathlu deugain mlynedd o gyfiwyno Beti a i Phobl.

    19 Mai 2025
    Jen Llywelyn
    “George M LI Davies”