
Author: Nic Dafis
-
Cymdeithas Ceredigion – Noson Trafod Buddugwyr Eisteddfod Wrecsam

Screenshot 7pm nos Sadwrn 6ed mis Medi, yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes
Buddugwyr Eisteddfod Wrecsam
Bydd croeso cynnes i bawb mewn noson i ddathlu buddugwyr cystadlaethau ysgrifennu Eisteddfod Wrecsam. Mae’r noson yn cael ei threfnu gan Gymdeithas Ceredigion. Dyna noson gyntaf eu rhaglen amrywiol a difyr. Mae’r noson i drafod gwaith sy wedi ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn boblogaidd bob blwyddyn, felly dewch yn gynnar i fachu’ch sedd, ac aros yn hwyr i gymdeithasu dros banad!
Bydd y noson yn dechrau am 7pm nos Sadwrn 6ed mis Medi, yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes, gyda’r Prifardd Tudur Dylan yn cadeirio. Bydd rhai o’r llenorion buddugol yn bresennol i gyfrannu at y trafod, gan gynnwys Owain Rhys, a enillodd y Goron.
Pris y tocyn (i’w brynu wrth y drws) yw £10, sy’n cynnwys aelodaeth am y flwyddyn er mwyn mynychu’r 8 cyfarfod rhwng mis Medi a mis Ebrill.
Dyma gyfle i ddod i grŵp sy’n gwneud popeth yn Gymraeg. ac mae’n rhoi croeso arbennig i bobl sy’n dysgu Cymraeg. Mae llawer o siaradwyr newydd, sef pobl sy wedi dysgu Cymraeg yn ail iaith, yn y grŵp.
Yn ystod y flwyddyn, bydd digwyddiadau llenyddol, cerddorol a sgyrsiau am hanes – yn ogystal â bwyd da mewn sawl un o’r cyfarfodydd. Maen nhw fel arfer yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes ar nosweithiau Gwener, ond ddim bob tro. Eleni, bydd sesiwn ‘Sut i ddofi corryn… Holi’r bardd a’r llenor Mari George’ 3ydd mis Hydref, a’r hanesydd poblogaidd Hedd Ladd-Lewis yn siarad am Ryfel y Degwm 7fed mis Tachwedd. Cynhelir ein Cinio Nadolig gyda rhai o ddosbarth telyn Meinir Heulyn yn rhoi’r adloniant.
Ar ddechrau’r flwyddyn newydd, gwasanaeth Plygain yng Nghapel Blaenannerch yw noson arall i edrych ymlaen ati, gyda lluniaeth ysgafn i ddilyn. Ym mis Chwefror, bydd noson o glywed straeon am bethau dwys a doniol yn hanes Cymdeithas Ceredigion, ac wedyn i ddathlu Gŵyl Dewi, cynhelir noson ‘Cawl a Cherddi’, gydag Eisteddfod y Gymdeithas, sy wastad yn noson hwyliog iawn. Mae’r cystadlaethau amrywiol (barddoniaeth a rhyddiaith, dwys a digri) yn agored i bawb ac mae cystadleuaeth arbennig i ddysgwyr. Castell Aberteifi yw lleoliad cyfarfod olaf y flwyddyn ym mis Ebrill, gyda sgwrs gan Non Davies am gysylltiad y Castell â’r Eisteddfod Genedlaethol, a chinio i ddilyn ym Mwyty 1176.
Mae croeso cynnes i bawb bob tro. Am ragor o fanylion cysylltwch â dbroberts@btinternet.com neu philippa.gibson@gmail.com 07787 197630
-
Cymdeithas Ceredigion – Rhaglen 2025 – 2026
Y cyfarfodydd i’w cynnal yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes oni nodir yn wahanol. Sylwch fod y rhan fwyaf ohonynt bellach ar nos Wener.
Nos Sadwrn, 6 Medi 2025 am 7:00
Trafod Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yng nghwmni sawl enillydd
Cadeirydd: Y Prifardd Tudur Dylan
Rhagor o fanylion fan hyn3 Hydref 2025 am 7:30
Mari George – Sut i ddofi corryn… holi’r bardd a’r llenor7 Tachwedd 2025 am 7:30
Hedd Ladd Lewis – Rhyfel y Degwm5 Rhagfyr 2025 am 7:00
Cinio Nadolig
gyda Meinir Heulyn a’i dosbarth telynNos Sul, 11 Ionawr 2026 am 7.00
Gwasanaeth y Plygain, Capel Blaenannerch6 Chwefror 2026 am 7:30
Y difri a’r digri: atgofion am y Gymdeithas gan aelodau a chyfeillion6 Mawrth 2026 am 7:00
Cawl ac Eisteddfod Gŵyl Dewi – gweler isod am fanylion
Beirniad: Emyr Davies10 Ebrill 2026 am 11:00 bore Gwener
Ymweliad â Chastell Aberteifi:
11am Ystafell y Tŵr: Sgwrs gan Non Davies: Castell Aberteifi a’r Eisteddfod
tua 12:15 Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas
tua 1pm Bwyty 1176: cinioYR EISTEDDFOD – TESTUNAU
Beirniad: Emyr Davies
Mae’r holl gystadlaethau yn agored i bawb
Gwobr Goffa Pat Neill: Cerdd gaeth neu rydd (heb fod dros 40 o linellau): i unrhyw dref neu bentref yng Ngheredigion
Gwobr: Cadair Fechan a £50
- Englyn: i Athro neu Athrawes
- Triban: beddargraff cymeriad cartŵn
- Cywydd: Plygain (hyd at 18 o linellau)
- Parodi o unrhyw bennill telyn enwog
- Limrig yn cynnwys y llinell ‘Peth anodd yw gweithio o gartre’ neu ‘Mae gweithio o gartre’n beth anodd’
- Llythyr doniol at unrhyw Aelod Seneddol / Aelod o Senedd Cymru
- Erthygl i bapur bro: portread o unrhyw Nyrs / Postmon / Ffermwr lleol
- Cystadleuaeth i ddysgwyr (unrhyw lefel): cerdd neu ddarn o ryddiaith i unrhyw anifail
- Cystadleuaeth i rai dan 25 oed: cerdd neu ddarn o ryddiaith ar y testun ‘Protest’
Gwobrau ar gyfer gystadlaethau 1-8: £20; Rhif 9: Tlws a £20
Gwobrau eraill i’w cadw am flwyddyn:
Cadair Her am y darn barddoniaeth gorau (ac eithrio cystadleuaeth Pat Neill)
Cwpan Her Ben Owens am y darn rhyddiaith gorau.
Rhaid i bob ymgais unigol fod o dan ffugenw, gydag enw’r ymgeisydd ar wahân. Derbynnir cynigion drwy’r post arferol neu drwy e-bost. Y cyfansoddiadau i law Gwenda Evans, Awelfor, Sarnau, Llandysul, Ceredigion SA44 6QS 01239 654552 gwendaevans257@btinternet.com erbyn y dyddiad cau, dydd Llun 16 Chwefror 2026.
-
Cymdeithas Cymrodorion Llandysul
RHAGLEN TYMOR 2024-2025
Nos Fercher, Hydref 16eg 2024
Neuadd yr Eglwys, Llandysul 7.30yh
Y Prifardd Dr Aneirin Karadog
Testun: “Bachgen Bach o Bonty”
Llywydd: Mr Philip AinsworthNos Fercher, Tachwedd 20fed 2024
Neuadd yr Eglwys, Llandysul 7.30yh
Mr Gerwyn Morgan
Testun: “Boneddigion Godre Dyffryn Teifi”
Llywydd: Mrs Anne ThorneNos Fercher, Ionawr 15fed 2025
Neuadd yr Eglwys, Llandysul 7.30yh
Yr Athro David Thorne
Testun: “Eglwys Waunifor”
Llywydd: Canon Aled WilliamsNos Fercher, Chwefror 19eg 2025
Neuadd yr Eglwys, Llandysul 7.30yh
Noson yng nghwmni yr arlunwyr
Meirion a Joanna Jones
Llywydd: Mr David LewisMawrth 9fed 2025 – Sul Cenedlaethol
Eglwys Sant Tysul, Llandysul, 10yb
Gwasanaeth o dan ofal Canon Gareth Reid -
Cymdeithas y Gaeaf – Rhaglen 2024 – 2025

BOREAU COFFI: 10.30-12.30 yn Festri Capel Blaenannerch
13 Medi 2024
11 Hydref 2024
8 Tachwedd 2024
13 Rhagfyr 2024
10 lonawr 2025
14 Chwefror 2025
14 Mawrth 2025SIARADWYR : 2.00pm yn Festri Capel Blaenannerch
7 Hydref 2024
Mrs Aeres James
Doliau Ŷd4 Tachwedd 2024
Mr Emyr Phillips
Chwareli Cilgerran9 Rhagfyr 2024
Mrs Sharon Harries
Caligraffi – sylwer, yr ail ddydd Llun6 lonawr 2025
Mr Huw Morgan
Pennaeth yr Adran Arlwyo, Coleg Ceredigion
3 Chwefror 2025
Mr Hedd Ladd-Lewis
Brwydr y Degwm3 Mawrth 2025
Dathlu Gwyl Ddewi -
Cymdeithas Ceredigion – Rhaglen 2024 – 2025
Y cyfarfodydd i’w cynnal yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes oni nodir yn wahanol. Sylwch fod y rhan fwyaf ohonynt bellach ar nos Wener.
Am y newyddion diweddaraf o’r Gymdeithas, gwiriwch eu tudalen Facebook.

Nos Sadwrn, 7 Medi 2024 am 7:00
Trafod Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yng nghwmni’r prif enillwyr
Cadeirydd: Y Prifardd Tudur DylanNos Wener, 4 Hydref 2024 am 7:30
Jo Heyde – Cân y Croesi (Bardd y Mis Radio Cymru, Gorffennaf 2024)Nos Wener, 1 Tachwedd am 7:30
Carwyn Graves – Tir: ein tirwedd diwylliannolNos Wener, 7 Rhagfyr am 7:00
Cinio Nadolig
Gydag adloniant2025
Nos Sul, 12 Ionawr 2025 am 7.00
Gwasanaeth y Plygain, Capel BlaenannerchNos Wener, 7 Chwefror am 7:30
Emyr Llywelyn, Carol Davies ac Owenna Davies: Noson i ddathlu hiwmor Emyr Pen-rhiw a’r diweddar Dai Rees DaviesNos Wener, 7 Mawrth am 7:00
Cawl ac Eisteddfod Gŵyl Dewi
Beirniad: y Prifardd Gwenallt Llwyd IfanNos Wener, 4 Ebrill am 7:30
Alis Hawkins – Pechodau’r Gorffennol: ffuglen drosedd hanesyddolNos Wener, 2 Mai am 7:00
Cyfarfod Blynyddol a Swper y GymdeithasMis Mehefin
Taith y Gymdeithas (y manylion i ddilyn) -
Cymdeithas Maes a Môr, Ffostrasol

Maes a Môr – Rhaglen y Flwyddyn
Cyfarfodydd i’w cynnal yn Nhafarn Ffostrasol am 7:30 yh ar nos Lun, oni nodir yn wahanol
16 Medi 2024
Cennydd Jones
“Meillion a’u gwerth i ffermwyr Cymru.”21 Hydref 2024
Huw Williams
“Cofio (ac anghofio) cawr o Gymro: Richard Price, apostol rhyddid.”18 Tachwedd 2024
Euros Lewis
“Straeon celwydd golau.”16 Rhagfyr 2024
Sam Robinson
Y bardd a’r bugail o Fachylleth – a’r gwneuthurwr seidr.20 lonawr 2025
Cerys Lloyd, Prifysgol Aberystwyth
“Tywydd Eithafol.”Nos Sadwrn, 25 lonawr 2025 yn Neuadd Coed y Bryn
Cyngerdd gan ‘Pedair’ – Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Siân James
Dathlu Santes Dwynwen (dyddiad ychwanegol).
17 Chwefror 2025
Marian Delyth
“Hanner can mlynedd o dynnu lluniau.”17 Mawrth 2025
Emyr Llywelyn, Carol Davies, Owenna Davies
‘Y Maes a’r Môr’ Dathlu Gwyl Ddewi mewn can a cherdd.28 Ebrill 2025 (dyddiad newydd)
Beti George
Dathlu deugain mlynedd o gyfiwyno Beti a i Phobl.19 Mai 2025
Jen Llywelyn
“George M LI Davies” -
Cymdeithas Cymrodorion Aberteifi – Rhaglen 2024 – 2025
Rhaglen y Tymor 2024-2025
2024
Hydref 9: Dr Dafydd Tudur, Derwen Gam, Llanarth.
Testun: “Canfod a Chofio: Canmlwyddiant y Rhyfel Mawr a’r Ddeiseb Heddwch”.
Tachwedd 13: Dr Siân Wyn Siencyn, Talgarreg.
Testun: “STORI MARIAN – Merch o Geredigion”.
2025
Ionawr 8: Y Parchedig Ganon Richard Davies, Casnewydd-bach.Testun: “Glaniad y Ffrancod”.
Chwefror 12: Y Gyflwynwraig Mari Grug James, Sanclêr.
Testun: “Bywyd fel cyflwynydd teledu a Mam tra’n brwydro Canser”.
Dathlu Gŵyl Ddewi 2025:-
Chwefror 28: Cinio’r Tair Cymdeithas yn y Clwb Golff, Gwbert tan ofal Cylch Cinio Teifi.(Nos Wener) I ddechrau yn ffurfiol am 7.30 y.h.
Y Gwestai:- Y Diddanwr Cleif Harpwood, Boncath.
Mawrth 2: Oedfa’r Cymdeithasau yng ngofal Merched y Wawr Cylch Teifi(Nos Sul) yng Nghapel Mair, Aberteifi am 6.00 y.h.
Anerchiad gan:- Y Chwaer Natalie Morgan, Aberteifi.
Mawrth 12: Y Delynores Meinir Heulyn, Synod Inn.
Testun: “Cip ar Hanes y Delyn yng Nghymru”.
Ebrill 9: Y Bnr Cris Tomos, Hermon, Y Glôg.
Testun: “Perthyn”.Croeso cynnes i bawb.
-
Digwyddiadau Llambed a Dyffryn Aeron
Wedi cael neges gan Nia Llywelyn sy’n rhestri rhai o’r digwyddiadau Cymraeg yn Nyffryn Aeron a Llanbedr Pont Steffan:
4 Tachwedd, 7:30 pm. Bingo Bananas gyda’r comediwr Noel James yn Castle Green, Llanbed, raffl ar y noson. Croeso i bawb
12 Tachwedd 3:30 pm. Sgwrs ar y Sul gyda Geraint Morgan. Bywyd fferyllydd!
Tafarn y Vale, Dyffryn Aeron.24 Tachwedd 7:30 pm. Noson o Farddoniaeth a bach o ffidil gyda Iestyn Tyne. Yn cefnogi mae’r prifardd Hywel Griffiths.
Tafarn y Vale, Dyffryn Aeron. Croeso i bawb25 Tachwedd 7:30 pm. Noson gyda Owen Shiers, Cynefin. Neuadd Fictoria, Llanbed. Pris mynediad £5, £3 i blant
10 Rhagfyr 3 pm. Sgwrs ar y Sul gyda teulu Gwarffynnon. Dewch i glywed sut wnaeth Gwarffynnon ddechrau bar llaeth. Tafarn y Vale, Dyffryn Aeron.
12 Ionawr 7:30 pm. Noson Y Fari Lwyd gyda Gwilym Bowen Rhys, Neuadd Fictoria, Llanbed £5 oedolion, £3 plant. Croeso i bawb.
-
Merched y Wawr, Cylch Teifi
Y cyfarfodydd yn Festri Capel Mair am 7.00yh
Rhaglen 2023 – 2024
4 Hydref 2023
Hazel Thomas, Swyddog Datblygu Merched y Wawr1 Tachwedd 2023
Cinio yng Nghlwb Golff Aberteifi6 Rhagfyr 2023
Addurniadau Nadolig3 lonawr 2024
Cwis Hwyl – Rhidian EvansCyfarfod mis Chwefror – i’w drefnu
1 Mawrth 2024
Cinio Gwyl Dewi y Cymdeithasau yn y Clwb Golff – 7.00yh ar gyfer 7.30yh
Gwestai – yr actores Rhian Morgan, Llandeilo3 Mawrth 2024
Oedfa Gwyl Dewi y Cymdeithasau yng Nghapel Mair am 6.00 h
Anerchiad gan Mrs Gwendoline Evans, Nanternis7 Mawrth 2024
Ymuno à Changen y Mwnt i ddathlu Gwyl Dewi