Cymdeithas Ceredigion – Rhaglen 2025 – 2026

Y cyfarfodydd i’w cynnal yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes oni nodir yn wahanol.  Sylwch fod y rhan fwyaf ohonynt bellach ar nos Wener.

Nos Sadwrn, 6 Medi 2025 am 7:00
Trafod Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yng nghwmni sawl enillydd

Cadeirydd: Y Prifardd Tudur Dylan

3 Hydref 2025 am 7:30
Mari George – Sut i ddofi corryn… holi’r bardd a’r llenor

7 Tachwedd 2025 am 7:30
Hedd Ladd Lewis – Rhyfel y Degwm

5 Rhagfyr 2025 am 7:00
Cinio Nadolig

gyda Meinir Heulyn a’i dosbarth telyn

Nos Sul, 11 Ionawr 2026 am 7.00
Gwasanaeth y Plygain, Capel Blaenannerch

6 Chwefror 2026 am 7:30
Y difri a’r digri: atgofion am y Gymdeithas gan aelodau a chyfeillion

6 Mawrth 2026 am 7:00
Cawl ac Eisteddfod Gŵyl Dewi – gweler isod am fanylion
Beirniad: Emyr Davies 

10 Ebrill 2026 am 11:00 bore Gwener 
Ymweliad â Chastell Aberteifi:

Bwyty 1176: cinio

Ystafell y Tŵr: Sgwrs gan Non Davies: Castell Aberteifi a’r Eisteddfod 

tua 12:15 Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas

YR EISTEDDFOD – TESTUNAU

Beirniad: Emyr Davies

Mae’r holl gystadlaethau yn agored i bawb

Gwobr Goffa Pat Neill: Cerdd gaeth neu rydd (heb fod dros 40 o linellau): i unrhyw dref neu bentref yng Ngheredigion

Gwobr: Cadair Fechan a £50

  1. Englyn: i Athro neu Athrawes
  2. Triban: beddargraff cymeriad cartŵn 
  3. Cywydd: Plygain (hyd at 18 o linellau)
  4. Parodi o unrhyw bennill telyn enwog
  5. Limrig yn cynnwys y llinell ‘Peth anodd yw gweithio o gartre’ neu ‘Mae gweithio o gartre’n beth anodd’
  6. Llythyr doniol at unrhyw Aelod Seneddol / Aelod o Senedd Cymru
  7. Erthygl i bapur bro: portread o unrhyw Nyrs / Postmon / Ffermwr lleol
  8. Cystadleuaeth i ddysgwyr (unrhyw lefel): cerdd neu ddarn o ryddiaith i unrhyw anifail
  9. Cystadleuaeth i rai dan 25 oed: cerdd neu ddarn o ryddiaith ar y testun ‘Protest’

Gwobrau ar gyfer gystadlaethau 1-8: £20; Rhif 9: Tlws a £20

Gwobrau eraill i’w cadw am flwyddyn:

Cadair Her am y darn barddoniaeth gorau (ac eithrio cystadleuaeth Pat Neill)

Cwpan Her Ben Owens am y darn rhyddiaith gorau.

Rhaid i bob ymgais unigol fod o dan ffugenw, gydag enw’r ymgeisydd ar wahân.  Derbynnir cynigion drwy’r post arferol neu drwy e-bost. Y cyfansoddiadau i law Gwenda Evans, Awelfor, Sarnau, Llandysul, Ceredigion SA44 6QS  01239 654552 gwendaevans257@btinternet.com erbyn y dyddiad cau, dydd Llun 16 Chwefror 2026.