Cymdeithas Ceredigion – Noson Trafod Buddugwyr Eisteddfod Wrecsam 

Screenshot

7pm nos Sadwrn 6ed mis Medi, yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes

Buddugwyr Eisteddfod Wrecsam 

Bydd croeso cynnes i bawb mewn noson i ddathlu buddugwyr cystadlaethau ysgrifennu Eisteddfod Wrecsam. Mae’r noson yn cael ei threfnu gan Gymdeithas Ceredigion. Dyna noson gyntaf eu rhaglen amrywiol a difyr. Mae’r noson i drafod gwaith sy wedi ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn boblogaidd bob blwyddyn, felly dewch yn gynnar i fachu’ch sedd, ac aros yn hwyr i gymdeithasu dros banad! 

Bydd y noson yn dechrau am 7pm nos Sadwrn 6ed mis Medi, yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes, gyda’r Prifardd Tudur Dylan yn cadeirio. Bydd rhai o’r llenorion buddugol yn bresennol i gyfrannu at y trafod, gan gynnwys Owain Rhys, a enillodd y Goron. 

Pris y tocyn (i’w brynu wrth y drws) yw £10, sy’n cynnwys aelodaeth am y flwyddyn er mwyn mynychu’r 8 cyfarfod rhwng mis Medi a mis Ebrill

Dyma gyfle i ddod i grŵp sy’n gwneud popeth yn Gymraeg. ac mae’n rhoi croeso arbennig i bobl sy’n dysgu Cymraeg. Mae llawer o siaradwyr newydd, sef pobl sy wedi dysgu Cymraeg yn ail iaith, yn y grŵp. 

Yn ystod y flwyddyn, bydd digwyddiadau llenyddol, cerddorol a sgyrsiau am hanes – yn ogystal â bwyd da mewn sawl un o’r cyfarfodydd. Maen nhw fel arfer yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes ar nosweithiau Gwener, ond ddim bob tro. Eleni, bydd sesiwn ‘Sut i ddofi corryn… Holi’r bardd a’r llenor Mari George’ 3ydd mis Hydref, a’r hanesydd poblogaidd Hedd Ladd-Lewis yn siarad am Ryfel y Degwm 7fed mis Tachwedd. Cynhelir ein Cinio Nadolig gyda rhai o ddosbarth telyn Meinir Heulyn yn rhoi’r adloniant. 

Ar ddechrau’r flwyddyn newydd, gwasanaeth Plygain yng Nghapel Blaenannerch yw noson arall i edrych ymlaen ati, gyda lluniaeth ysgafn i ddilyn. Ym mis Chwefror, bydd noson o glywed straeon am bethau dwys a doniol yn hanes Cymdeithas Ceredigion, ac wedyn i ddathlu Gŵyl Dewi, cynhelir noson ‘Cawl a Cherddi’, gydag Eisteddfod y Gymdeithas, sy wastad yn noson hwyliog iawn. Mae’r cystadlaethau amrywiol (barddoniaeth a rhyddiaith, dwys a digri) yn agored i bawb ac mae cystadleuaeth arbennig i ddysgwyr. Castell Aberteifi yw lleoliad cyfarfod olaf y flwyddyn ym mis Ebrill, gyda sgwrs gan Non Davies am gysylltiad y Castell â’r Eisteddfod Genedlaethol, a chinio i ddilyn ym Mwyty 1176.

Mae croeso cynnes i bawb bob tro. Am ragor o fanylion cysylltwch â dbroberts@btinternet.com neu philippa.gibson@gmail.com  07787 197630