Month: September 2020

  • Garddio – ein ffordd, nid yr unig ffordd

    Dyma Ursula gyda’r hanes o sut mae hi’n trin ei gardd ei hunan – dim ond Rhan 1 yw hyn, bydd rhagor yr wythnos nesa!

    Dw i’n tyfu blodau ar gyfer peillwyr yn unig, planhigion brodorol yn bennaf ond bob amser yn fwyd i wenyn a gloÿnnod byw.

    Dim ond hadau organig dw i’n eu prynu! Bob blwyddyn dw i’n rhoi cynnig ar rywbeth newydd!

    Mae’r cosmos fel pili-pala!

    Dyn ni’n caniatáu i chwyn (beth yw chwyn?) dyfu yn ein gardd a dim ond ychydig o weithiau dyn ni’n torri’r glaswellt yn ystod yr haf.

    Mae Myrddin a lola yn mwynhau chwarae pel droed yn y glaswellt hir gyda llygad y dydd bach gwyn!

    Dyma’n ffrind gorau! Mae’n draenog yn bwyta bob malwen a gwlithen – datrys problemau!

    Dyn ni’n hoffi ffa dringo! Dyn ni wedi’u hau yn gynharach yn y flwyddyn ac nawr, ym mis Awst, gallwn ni eu bwyta! Roedd y gwenyn yn brysur yn eu peillio! Swydd dda iawn!