Day: February 1, 2019

  • Rysáit – Creision Bresych Cyrliog

    Llun gan Hamburger Helper ar Flickr

    Rysáit gan Sarah, o ddosbarth Uwch 1 dydd Mawrth. Diolch yn fawr iddi am rannu’r rysáit, ac am ddod â chreision i ni eu profi yn y dosbarth!

    Cynhwysion
    Olew coco – 15ml (llwy fwrdd)
    Halen seleri – 2.5 ml (hanner llwy de)
    Paprica – 5ml (llwy de)
    Bresych cyrliog (cêl) wedi’i olchi a sychu – hanner bag (tua 150g)
    Powdr menyn cnau mwnci – 15ml (llwy fwrdd)

    Dull

    • Torrwch y bresych cyrliog yn ddarnau bach heb wythiennau
    • Twymwch y dadhydradwr [dehydrator] i 55° C
    • Rhowch y olew coco dros bowlen o ddŵr poeth nes ei fod e wedi toddi
    • Rhowch fresych cyrliog mewn powlen ac ychwanegwch yr olew coco. Cymysgwch yn dda
    • Ychwanegwch y powder menyn cnau mwnci, paprica a’r halen seleri a chymysgwch yn dda eto
    • Rhowch y bresych cyrliog yn y dadhydradwr am tua 3 i 4 awr i sychu
    • Rhowch mewn blwch wedi’i selio a bwyta o fewn wythnos

    Diolch eto Sarah, edrychwn ni ymlaen at dy waith cartre nesaf!

  • Cymrodorion Aberteifi – rhaglen 2019

    Festri Bethania, Stryd Wiliam, 7.30yh
    £2 am y noson, neu £10 am y tymor.
    Bydd croeso cynnes iawn i ddysgwyr yno.
    Mae Cymrodorion Aberteifi yn gymdeithas sy’n trefnu Sgwrs ar wahanol bynciau bob mis yn ystod y gaeaf.

    Talks in Welsh every month through the winter.

    13 Chwefror 2019
    Mrs Lona Mason, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
    ‘Merched y Llyfrgell’


    13 Mawrth 2019
    Dr Robin Chapman, Aberystwyth
    ‘I fyny bo’r nod: uchelgais yn niwedd oes Victoria’


    10 Ebrill 2019
    Noson yng nghymni Meirion a Joanna Jones, yn sôn am eu Gwaith Celf ac Arlunio.