Dim Cymraeg?

Dw i’n credu bod Google Translate wedi cyrraedd y pwynt lle mae’n ddigon teg i flog sydd ar gyfer (yn bennaf) y rhai sy eisiau dysgu’r Gymraeg, fod yn uniaith Gymraeg. Dyma fi, felly, yn cynnwys teclyn GTranslate. Mae’r rhestr ar y dde yn cynnwys yr ieithoedd di-ofyn sy’n dod gyda’r teclyn, ond os oes unrhywun yn darllen hyn a gweld eisiau cael cyfieithiad i Aeleg yr Alban, neu beth bynnag, rhowch wybod i fi.

(O’r gorau, o ddarllen y paragraff uchod yn fersiwn Saesneg GTranslate, dyw e ddim yn arbennig o dda, ond gobeithio ei fod yn ddigon da. )

Dyma ni eto

Mae’r hen fersiwn o’r blog ‘ma wedi cael ei hacio, ac yn lle treulio oriau maeth ceisio datrys y broblem, dw i wedi dileu’r holl beth, ac ail-osod blog newydd sbon.

Does dim llawer yma eto, ond mae tair tudalen defnyddiol wedi eu hachub o’r archif, sef Sgwrsio (manylion am y grwpiau sgwrsio sy’n cwrdd yn yr ardal), Cylchlythyr (manylion am yr ebost wythnosol am ddigwyddiadau Cymraeg), ac un newydd, Geirfa (sy’n cyfuno’r taflenni geirfa ar gyfer dysgwyr sy eisiau dechrau darllen nofelau Cymraeg).

Fydd dim modd i adael sylwadau ar y blog ‘ma (i dorri lawr ar faint o amser dw i’n gorfod treulio dileu sbam!), ond mae gyda ni dudalen Facebook a chyfrif Twitter os hoffech ein dilyn, a chroeso i chi hala ebost atom.